Douglas Adams
awdur a dychanwr Seisnig / From Wikipedia, the free encyclopedia
Llenor, dramodydd a cherddor Seisnig oedd Douglas Noel Adams (11 Mawrth 1952 – 11 Mai 2001). Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur The Hitchhiker's Guide to the Galaxy, a ddechreuodd ym 1978 fel comedi radio BBC cyn cael ei ddatblygu'n "driawd" o bum llyfr a werthodd dros 15 miliwn copi yn ystod ei oes, yn ogystal â chyfres deledu, sawl drama llwyfan, comics, a gêm gyfrifiadur, ac yn 2005, ffilm.
Douglas Adams | |
---|---|
Ffugenw | David Agnew |
Ganwyd | Douglas Noël Adams 11 Mawrth 1952 Caergrawnt |
Bu farw | 11 Mai 2001 o trawiad ar y galon Santa Barbara |
Man preswyl | Santa Barbara, Llundain, Brentwood |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | dramodydd, sgriptiwr, nofelydd, awdur plant, awdur ffuglen wyddonol, digrifwr, ysgrifennwr, cerddor |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | The Hitchhiker's Guide to the Galaxy pentalogy, Dirk Gently series, The Private Life of Genghis Khan |
Arddull | gwyddonias, comedi, dychan |
Taldra | 1.96 metr |
Tad | Christopher Douglas Adams |
Mam | Janet Adams |
Priod | Jane Belson |
Plant | Polly Jane Rocket Adams |
Gwobr/au | Gwobr Inkpot, Gwobr Ditmar |
Gwefan | https://douglasadams.com/ |
llofnod | |
Ysgrifennodd hefyd Dirk Gently's Holistic Detective Agency (1987) a The Long Dark Tea-Time of the Soul (1988), a chyd-ysgrifennodd The Meaning of Liff (1983), Last Chance to See (1990), a thair stori yng nghyfres deledu Doctor Who. Cyhoeddwyd casgliad o'i waith wedi ei farwolaeth, gan gynnwys nofel di-orffenedig The Salmon of Doubt yn 2002.
Adnabyddir Adams gan ei ddilynwyr fel "Bop Ad" oherwydd ei lofnod annarllenadwy,[1] Daeth Adams yn adnabyddus fel eiriolwr dros anifeiliaid a'r amgylchedd, roedd yn hoff o geir cyflym, cameráu, a'r Apple Mac, ac yn anffyddiwr pybyr, gan ddychmygu'r "sentient puddle" sy'n deffro bob bore ac yn meddwl iddo'i hun "Dyma fyd diddorol a ganfyddaf fy hun ynddi—twll diddorol a ganfyddaf fy hun ynddi—mae'n fy ffitio'n weddol dda, yntydi? Yn wir, mae'n fy ffitio'n syfrdanol o dda, mae'n rhaid y crewyd ef i mi fod ynddi!".[2] Cysegrodd y gwyddonydd Richard Dawkins ei lyfr, The God Delusion, i Adams, gan ysgrifennu wedi ei farwolaeth bod "gwyddoniaeth wedi colli cyfaill, llenyddiaeth wedi colli seren ddisglair, a gorila'r mynydd a'r rhino du wedi colli amddiffynnwr gwrol.[3]