Etholiad nesaf Senedd Cymru
From Wikipedia, the free encyclopedia
Bydd etholiad nesaf y Senedd yn digwydd ym mis Mai 2026 neu cyn hynny [2] i ethol aelodau Senedd Cymru. Hwn fydd y seithfed etholiad cyffredinol datganoledig ers sefydlu’r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynt) ym 1999. Hwn hefyd fydd yr ail etholiad ers i’r Senedd newid ei henw ym mis Mai 2020.
Ffeithiau sydyn Pob un o 60 (neu 96) sedd y Senedd 31 (neu 49) seddi sydd angen i gael mwyafrif, Plaid cyntaf ...
Pob un o 60 (neu 96) sedd y Senedd 31 (neu 49) seddi sydd angen i gael mwyafrif | |||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Polau piniwn | |||||||||||||||||||||||||
| |||||||||||||||||||||||||
|
Cau
Ffeithiau sydyn
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres: |
Cymru o fewn y DU
Cymru o fewn yr UE
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
Cau
Mae’r Senedd yn trafod newid y system bleidleisio ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Bil a fydd yn cyflwyno newidiadau ar gyfer etholiad Senedd 2026, os yn llwyddiannus. Mae newidiadau arfaethedig y Bil yn cynnwys:
- cynyddu maint y Senedd o 60 i 96 Aelod Seneddol (oherwydd gorlwytho)
- newid y dull pleidleisio i D'Hondt (i fod yn fwy cymesur a syml)
- gofyniad i bob ymgeisydd fyw yng Nghymru
Mae cynigion hefyd ar gyfer cyflwyno cwotâu amrywiaeth nad ydynt yn y Bil cyntaf.