George Steiner
llenor Americanaidd (1929-2020) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Beirniad llenyddol, ysgrifwr, academydd, a nofelydd Americanaidd o dras Awstriaidd-Iddewig, a gafodd ei eni a'i fagu yn Ffrainc, oedd Francis George Steiner (23 Ebrill 1929 – 3 Chwefror 2020). Mae ei waith yn ymdrin â'r berthynas rhwng llenyddiaeth a chymdeithas, iaith ac ieithyddiaeth, athroniaeth, ac hanes modern. Oherwydd ei feistrolaeth ar feysydd eang o wybodaeth, fe'i gelwir yn aml yn bolymath. Roedd ganddo werthfawrogiad traddodiadgarol o ganon y Gorllewin a bu'n lladd ar ddamcaniaethau beirniadol megis y Feirniadaeth Newydd, ôl-adeileddaeth, a dadadeiladaeth. Yn ogystal â'i gyfrolau academaidd, astudiaethau llenyddol, a chasgliadau o ysgrifau, cyhoeddodd Steiner un nofel fer a thair chyfrol o straeon byrion.
George Steiner | |
---|---|
Ganwyd | Francis George Nathaniel Steiner 23 Ebrill 1928 Neuilly-sur-Seine |
Bu farw | 3 Chwefror 2020 Caergrawnt |
Dinasyddiaeth | Ffrainc, Unol Daleithiau America |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | athronydd, nofelydd, cyfieithydd, academydd, beirniad llenyddol, newyddiadurwr, ysgrifennwr, awdur ysgrifau |
Swydd | beirniad Gwobr Booker |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | After Babel |
Priod | Zara Steiner |
Plant | David Steiner, Deborah Steiner |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur, Cymrodoriaeth Guggenheim, Princess of Asturias Award for Communications and Humanities, Alfonso Reyes International Prize, Today Prize, Doethuriaeth er Anrhydedd Prifysgol Girona, honorary doctor of the Catholic University of Louvain, Honorary doctor of the University of Liège, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Durham, Honorary doctor of the University of Bologna, Cymrawd yr Academi Brydeinig, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Gwobr Ludwig-Börne, Ysgoloriaethau Rhodes, honorary doctor of the University of Bristol, doethur anrhydeddus Prifysgol Glasgow, honorary doctorate of the University of Salamanca, honorary doctor of the University of Lisbon |
Ganed Francis George Steiner ym Mharis ar 23 Ebrill 1929. Iddewon a ymfudasant o Fienna yn 1924 oedd ei rieni, Elsie Steiner, Franzos gynt, a'r banciwr buddsoddiadau Frederick George Steiner o Awstria. Yn ôl ei hunangofiant Errata, cafodd genedigaeth George Steiner ei chynorthwyo gan Carl Weiss, yr un meddyg a saethodd y gwleidydd Americanaidd Huey Long yn 1935.[1]
Cafodd ei fagu'n rhugl yn Ffrangeg, Almaeneg, a Saesneg. Symudodd gyda'i deulu i Unol Daleithiau America yn 1940 ychydig wythnosau cyn cwymp Ffrainc. Yn Efrog Newydd, mynychodd George y Lycée Français. Cafodd ei wneud yn ddinesydd Americanaidd yn 1944, ac enillodd ei fagloriaeth Ffrengig (le baccalauréat) yn 1947. Derbyniodd ei radd baglor o Brifysgol Chicago yn 1948 a'i radd meistr o Harvard yn 1950. Enillodd Ysgoloriaeth Rhodes i Goleg Balliol, Rhydychen. Gwrthodwyd cyflwyniad cyntaf ei ddoethuriaeth yno.[1]
Treuliodd ei yrfa yn symud yn ôl ac ymlaen rhwng yr Unol Daleithiau ac Ewrop. Bu'n aelod o staff golygyddol The Economist o 1952 i 1956, ac enillodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Rhydychen o'r diwedd yn 1955. Gweithiodd yn Sefydliad Uwchefrydiau Prifysgol Princeton o 1956 i 1958,[2] a fe'i penodwyd yn ddarlithydd Christian Gauss yn Princeton o 1959 i 1960.[1] Addysgodd yng Ngholeg Churchill, Caergrawnt, Prifysgol Genefa, ac Harvard.[2] Steiner oedd uwch-olygydd llyfrau The New Yorker o 1966 i 1997. Yn 1981 cyhoeddwyd ei nofel fer The Portage to San Cristóbal of A.H., stori sydd yn dychmygu bywyd Adolf Hitler wedi iddo oroesi'r Ail Ryfel Byd.
Priododd George Steiner â Zara Alice Shakow yn 1955, a chawsant un mab, David, ac un ferch, Deborah. Bu farw yn ei gartref yng Nghaergrawnt yn 90 oed.[1]