Llanelltud
pentref a chymuned yng Ngwynedd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan, plwyf eglwysig a chymuned yng Ngwynedd yw Llanelltud ( ynganiad ) [1] (hefyd Llanelltyd). Saif ger y briffordd A470, ychydig i'r gogledd o dref Dolgellau ac ar lan ogleddol Afon Mawddach. Ceir gweddillion Abaty Cymer ychydig i'r dwyrain, abaty Sistersaidd a sefydlwyd yn 1199.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | cymuned |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.7576°N 3.9051°W |
Cod SYG | W04000075 |
Cod OS | SH714194 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Cau
Mae'r eglwys bresennol, a gysegrir i Sant Illtud, yn adeilad diweddar, yn dyddio o 1900, ond mae'r fynwent gron yn awgrymu fod y safle yn un hynafol.
Heblaw pentrefi Llanelltud a'r Bont-ddu, mae'r gymuned yn cynnwys copa Diffwys, y copa uchaf yn y Rhinogau, a Mwynfeydd aur Clogau. Roedd poblogaeth y gymuned yn 495 yn 2001. Yma hefyd roedd Hengwrt, plasdy Robert Vaughan (c.1592 - 1667), y casglwr llawysgrifau.