Yr argraff gyffredinol a geir wrth edrych ar lenyddiaeth Gymraeg yr 17g yw un o gyfnod o ddirywiad cyson ac unffurfiaeth lethol. Mae hyn yn adlewyrchu cyflwr gwleidyddol Cymru yn y ganrif honno a'r ffaith fod nifer o'r uchelwyr, noddwyr llên uchel a dysg, yn ymbellhau o'u gwreiddiau. Mae'n ganrif a ddominyddir gan grefydd a'r gwrthdaro rhwng Eglwys Loegr a'r Eglwys Gatholig ar ei dechrau a rhwng yr eglwys sefydlog a'r Pwirtianiaid yn ddiweddarach. Dyma'r ganrif a welodd rhyfel cartref yn rhwygo'r wlad hefyd, gyda thrwch arweinwyr Cymru yn ochri gyda'r brenin ac Eglwys Loegr. Nid yw'n syndod felly i gael fod y mwyafrif helaeth o lyfrau'r ganrif yn llyfrau crefyddol, gan gynnwys gwaith y ffigyrau llenyddol pwysicaf.
Ffeithiau sydyn Iaith, Rhagflaenwyd gan ...
Cau
Ffeithiau sydyn Cyfnodau, Barddoniaeth a drama ...
Cau