Margaret Hanmer
gwraig Owain Glyn Dŵr / From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwraig Owain Glyn Dŵr oedd Margaret Hanmer, weithiau Marred ferch Dafydd (tua 1370 – tua 1420). Er y bu'n wraig i Glyn Dŵr pan datganodd mai ef oedd Tywysog Cymru ym 1400, nid oes cofnod iddi erioed ddefnyddio'r teitl Tywysoges Cymru.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Margaret Hanmer | |
---|---|
Ganwyd | c. 1370 Cymru |
Bu farw | c. 1420 o Unknown Tŵr Llundain |
Tad | David Hanmer |
Mam | Angharad ferch Llywelyn |
Priod | Owain Glyn Dŵr |
Plant | Maredudd ab Owain Glyn Dŵr, Catrin ferch Owain Glyn Dŵr, Gruffudd ab Owain Glyndŵr, Alys ferch Owain Glyndŵr, Gwenllian ferch Owain Glyndŵr, Sioned ferch Owain, Ieuan ap Dafydd Dymock, of Penley |
Cau
Roedd yn ferch i Syr David Hanmer a'i wraig Angharad, ac roedd ganddi dri brawd, Gruffydd, Philip a John, ill tri yn gefnogwyr Glyn Dŵr yn ddiweddarach.
Credir iddynt briodi tua 1383, a chawsant tua naw o blant. Cymerwyd hi a dwy o'i merched yn garcharor pan syrthiodd Castell Harlech i'r Saeson yn 1409. Nid oes cofnod pellach amdani ar ôl hyn; mae'n debyg iddi farw mewn caethiwed.