Minchinhampton
tref a phlwyf sifil yn Swydd Gaerloyw / From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref a phlwyf sifil yn Swydd Gaerloyw, De-orllewin Lloegr, ydy Minchinhampton.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Stroud. Saif 4 millltir (6.4 km) i'r de-dde-ddwyrain o Stroud. Ceir tir comin gerllaw gydag olion hen fryngaer yno a golygfeydd o Gymru ac aber yr Hafren.
Ffeithiau sydyn Math, Ardal weinyddol ...
Math | tref farchnad, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Ardal Stroud |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaerloyw (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.7058°N 2.186°W |
Cod SYG | E04004365, E04013007 |
Cod OS | SO871008 |
Cod post | GL6 |
Cau
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 5,267.[2]