Paracelsus
From Wikipedia, the free encyclopedia
Meddyg ac athronydd Swisaidd ei genedl ac Almaeneg ei iaith oedd Philippus Aureolus Theophrastus Bombastus Von Hohenheim (11 Tachwedd (neu 17 Rhagfyr) 1493 – 24 Medi 1541)[1] a adwaenir gan amlaf gan ei enw Lladin, Paracelsus (/parəˈsɛlsəs/). Yn ogystal â'i astudiaethau yn ffisigwriaeth, botaneg ac athroniaeth naturiol, ymddiddorai yn alcemeg, sêr-ddewiniaeth, a'r ocwlt.[2]. Bu'n gyfrifol am ddatblygu Athrawiaeth yr Arwyddnodau.
Paracelsus | |
---|---|
Ffugenw | Paracelsus |
Ganwyd | Philippus Aureolus Theophrastus Bombastus von Hohenheim 10 Tachwedd 1945 Einsiedeln |
Bu farw | 24 Medi 1541 Salzburg |
Dinasyddiaeth | Y Swistir |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | meddyg ac awdur, astroleg, seryddwr, otolaryngologist, fferyllydd, cemegydd, athronydd, naturiaethydd, meddyg, ysgrifennwr |
Swydd | athro cadeiriol |
Cyflogwr | |
Tad | Wilhelm Bombast von Hohenheim |
Er ei ganolbwynt ar agweddau goruwchnaturiol a ystyrir yn ffug-wyddonol gennym yn yr oes fodern, gwyddonydd chwyldroadol oedd Paracelsus a osododd sail i fethodoleg weithredol yn y gwyddorau iechyd a chydnabai pwysigrwydd cemeg i'r ffisigwr. Beirniadai'r dull ysgolaidd ym meysydd meddygaeth, gwyddoniaeth, a diwinyddiaeth, gan arddel arsylwi natur er diben dealltwriaeth. Eiconoclast gwyddonol ydoedd, gan iddo amau doethindeb y testunau hynafol. Ymhlith ei gampau mae disgrifiad clinigol o syffilis, ymchwil cynnar ym maes gwenwyneg,[3] enwi'r elfen sinc (zincum),[4][5] ac awgrymu cysylltiad rhwng afiechydon corfforol ac afiechyd meddwl.[6] Y llyfr Der grossen Wundartzney (1536) yw ei gampwaith.