Mudiad crefyddol newydd yw Rastaffariaeth sydd a'i wreiddiau yn Jamaica yn y 1930au. Mae'r mwyafrif o'i ddilynwyr yn addoli Haile Selassie, Ymerawdwr Ethiopia o 1930 hyd 1974, fel Duw (Jah), yr Ailddyfodiad, neu ailymgnawdoliad Iesu. Mae nifer o Rastaffariaid yn ei hystyried yn fudiad, ideoleg, neu'n "Ffordd o Fyw" yn hytrach na chrefydd.

Thumb
Dyn Rastaffaraidd yn Barbados. Mae'n gwisgo het rasta ac mae ganddo fathodynnau sy'n dangos Haile Selassie, deilen ganabis, a lliwiau'r faner Rastaffaraidd.

Credoau a ffordd o fyw

Gellir ystyried Rastaffariaeth yn gyfuniad o Gristnogaeth Brotestannaidd, cyfriniaeth, ac ymwybyddiaeth wleidyddol holl-Affricanaidd.[1]

Cafodd caethweision Affricanaidd yn Jamaica eu troi'n Gristnogion gan genhadon a bregethodd Beibl Saesneg y Brenin Iago. Honna Rastaffariaid taw llygredigaeth o wir air Jah yw Beibl Iago a ddefnyddiwyd i reoli caethweision. Cred y gallent ddysgu'r wir ysgrythur drwy feithrin ymwybiddaeth gyfrinol o Jah y tu mewn i'r hunan. Wrth sôn am eu hunain byddent yn sôn am "fi a fi", sef "Jah a Jah". Gan ddenu ar straeon yr Hen Destament, yn bennaf Exodus, credant taw profion gan Jah yw dioddef hanesyddol, gwleidyddol ac economaidd y bobl ddu. Wrth ddarllen Llyfr y Datguddiad yn y Testament Newydd mae Rastaffariaid yn disgwyl eu gwaredigaeth a'u dychweliad i Seion. Maent yn credu taw Ethiopia yw mamwlad yr Affricanwyr a sedd Jah. Dychwelyd holl bobl ddu'r byd i Ethiopia yw un o amcanion y mudiad.[1]

Yn ôl eu darlleniadau detholus o'r Beibl, maent yn pwysleisio darnau yn Llyfr Lefiticus sy'n gwahardd torri'r gwallt a'r farf, sy'n nodi cyfraith ymborthol, ac sy'n pennu defodau gweddi a myfyrdod. Mae gan nifer o Rastaffariaid gredoau patriarchaidd yn seiliedig ar yr Hen Destament, sydd yn ôl nifer yn achosi rhywiaeth o fewn y mudiad.[1]

Arferion a diwylliant

Wrth addoli Jah, mae teuluoedd yn dod at ei gilydd i weddïo a chanu a tharo'r drymiau mewn rhythm a elwir yn Nyabinghi. O gwmpas y byd, cysylltir Rastaffariaeth yn gryf â cherddoriaeth reggae, yn enwedig Bob Marley.

O'r herwydd y gred ni ddylent dorri eu gwallt, mae nifer ohonynt yn gwisgo dreadlocks, sef gwallt mewn plethau bychain. Maent yn hoff o wisgo lliwiau coch (gwaed), gwyrdd (perlysiau), aur (brenhindod), a du (Affricanrwydd). Mae Rastaffariaid yn ysmygu canabis neu ganja yn ysbrydol ac yn bwyta deiet llysieuol. Siaredir Rastaffariaid Iyaric neu dread-talk, gan ddodi'r sain "I" mewn lle rhai sillafau.[1]

Hanes

Thumb
Haile Selassie, Ymerawdwr Ethiopia
Thumb
Marcus Garvey

Ceir gwreiddiau Rastaffariaeth mewn hanes trefedigaethrwydd yn Affrica ac esgyniad ymwybyddiaeth wleidyddol a chenedlaetholdeb y bobl ddu yng Ngogledd America. Cychwynnodd yn Jamaica yn y 1930au yn sgil darogan gan Marcus Garvey, sefydlydd yr Universal Negro Improvement Association: "Edrychwch i Affrica lle y coronir brenin du, ac ef bydd eich Gwaredwr."[2] Cafodd Haile Selassie ei goroni'n Ymerawdwr Ethiopia ym mis Tachwedd 1930, a ystyrid yn wireddu'r broffwydoliaeth. Ras Tafari oedd enw teuluol Haile Selassie, gan roi i'r mudiad newydd ei enw. Roedd Garvey yn credu taw negesydd Duw oedd Haile Selassie, wedi dod â chyfnod newydd lle byddai gan dduon hawliau cyfartal a'r hawl i ddychwelyd yn ôl i dir ffrwythlon Affrica. Heddiw ystyrir Garvey yn broffwyd gan Rastaffariaid.

Credir taw Leonard P. Howell a sefydlodd y ganghen gyntaf o Rastaffariaeth yn Jamaica ym 1935. Cred Howell mewn dwyfoldeb Haile Selassie, a honnodd bydd y duon yn ennill eu goruchafiaeth anochel dros y gwynion. Tyfodd y ffydd a datblygodd diwinyddiaeth Rastaffaraidd. Yng nghanol y 1950au ymgynullodd dilynwyr ar arfordiroedd Jamaica i deithio ar longau i Affrica. Roedd hyn yn drobwynt a ddaeth â gobaith i'r mudiad o ddychwelyd i'r famwlad ac ennill rhyddid i'r bobl ddu.[2]

Ymwelodd Haile Selassie â Jamaica ym 1966, ac ymledodd ddylanwad Rastaffariaeth ar draws y byd yn y 1970au gan boblogrwydd cerddoriaeth reggae, a Bob Marley yn enwedig. Cafodd Haile Selassie ei ddiorseddu gan chwyldro Marcsaidd ym 1974. Bu farw Haile Selassie ym 1975, a ddigalonodd nifer o Rastaffariaid a'u cred taw Duw ydoedd.[2]

Demograffeg

Yn ôl cyfrifiad Jamaica 2001, roedd 24,020 o Rastaffariaid yn y wlad, llai na 1% o'r boblogaeth.[3] Yn ôl ffynonellau eraill mae'r ffigurau'n uwch, tua 5% o'r boblogaeth[4] neu gymaint â 100,000 o unigolion.[5] Yn ôl cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001 mae 5000 o Rastaffariaid yn byw yng Nghymru a Lloegr,[6] y mwyafrif ohonynt yn Llundain ac o dras Jamaicaidd.

Ffeithiau sydyn
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Cau

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.