Slofenia
gweriniaeth yng Nghanol Ewrop / From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwlad sofran yn ne Canolbarth Ewrop yw Slofenia [1][2] (Slofeneg: Republika Slovenija[3]; sef Gweriniaeth Slofenia). Mae'n ffinio gyda'r Eidal i'r gorllewin, Awstria i'r gogledd, Hwngari i'r gogledd-ddwyrain, Croatia i'r de a'r de-ddwyrain, ac arfordir byr o'r Môr Adriatig i'r de-orllewin.[4] Mae Slofenia'n wlad fynyddig, coediog ar y cyfan,[5] gydag arwynebedd tebyg i Gymru, sef 20,272 cilometr sg[6] a phoblogaeth llawer llai na Chymru, sef 2,066,880 (1 Ionawr 2018)[7][8][9]. Slofeneg, un o'r ieithoedd De Slafaidd, yw'r iaith swyddogol.[10] Ar y 26 Rhagfyr, mae'n dathlu ei Diwrnod Annibyniaeth, i nodi'r Refferendwm dros Annibyniaeth a gafodd yn 1990.
Republika Slovenija | |
Arwyddair | I feel SLOVEnia |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, un o wledydd môr y canoldir, gwlad, unitary parliamentary republic |
Prifddinas | Ljubljana |
Poblogaeth | 2,066,880 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Anthem genedlaethol Slofenia |
Pennaeth llywodraeth | Robert Golob |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Slofeneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Canolbarth Ewrop, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd, post-Yugoslavia states |
Arwynebedd | 20,271 km² |
Gerllaw | Môr Adria, Y Môr Canoldir |
Yn ffinio gyda | yr Eidal, Awstria, Croatia, Hwngari |
Cyfesurynnau | 46°N 15°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Slofenia |
Corff deddfwriaethol | Senedd Slofenia |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Slofenia |
Pennaeth y wladwriaeth | Nataša Pirc Musar |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Slofenia |
Pennaeth y Llywodraeth | Robert Golob |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $61,749 million, $62,118 million |
Arian | Ewro |
Canran y diwaith | 10 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 1.55 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.918 |
Mae gan Slofenia hinsawdd gyfandirol dymherus yn bennaf,[11] ac eithrio'r Primorska a'r Julijske Alpe (yr Alpau Julian). Cyrhaedda hinsawdd is-ganoldirol rhanau gogleddol yr Alpau Dinarig sy'n croesi'r wlad i gyfeiriad gogledd-orllewin a'r de-ddwyrain. Mae gan Alpau Julian yn y gogledd-orllewin hinsawdd alpaidd.[12] Tua'r Basn Pannonaidd gogledd-ddwyreiniol, mae hinsawdd gyfandirol yn fwy amlwg. Ljubljana yw'r prifddinas a dinas fwyaf Slofenia, wedi'i lleoli'n ddaearyddol ger canol y wlad.[13]
Yn hanesyddol mae Slofenia wedi bod yn groesffordd i ieithoedd a diwylliannau Slafaidd, Germanaidd a Romáwns.[14] Mae ei diriogaeth wedi bod yn rhan o lawer o wahanol wladwriaethau: yr Ymerodraeth Rufeinig, yr Ymerodraeth Fysantaidd, yr Ymerodraeth Carolingaidd, Yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, Teyrnas Hwngari, Gweriniaeth Fenis, y Rhanbarthau Illyraidd Ymerodraeth Ffrainc Gyntaf Napoleon, Ymerodraeth Awstria, ac Ymerodraeth Awstro-Hwngari.[4] Yn Hydref 1918, cyd-sefydlodd y Slofeniaid Wladwriaeth Slofenia, Croatia a Serbia.[15] Yn Rhagfyr 1918, fe wnaethon nhw uno gyda Theyrnas Serbia o fewn Teyrnas Iwgoslafia.[16] Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, meddiannodd yr Almaen, yr Eidal, a Hwngari Slofenia, a throsglwyddwyd ardal fechan i Dalaith Annibynnol Croatia a oedd newydd gael ei datgan yn wladwriaeth byped Natsïaidd.[17] Ym 1945, daeth yn rhan o Iwgoslafia eto. Ar ôl y rhyfel, roedd Iwgoslafia'n gysylltiedig â'r Bloc Dwyreiniol, ond ar ôl hollt Tito-Stalin ym 1948, ni thanysgrifiodd erioed i Gytundeb Warsaw, ac ym 1961 daeth yn un o sylfaenwyr y Mudiad Anghydffurfiol (on-Aligned Movement).[18] Ym Mehefin 1991, datganodd Slofenia annibyniaeth o Iwgoslafia a daeth yn wladwriaeth sofran annibynnol.[19]
Mae Slofenia'n wlad ddatblygedig, gydag economi incwm uchel yn y Mynegai Datblygiad Dynol.[20] Mae cyfernod Gini yn graddio ei anghydraddoldeb incwm ymhlith yr isaf yn y byd (Lloegr yw un o'r uchaf yn y byd).[21] Mae'n aelod o'r Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal yr Ewro, Ardal Schengen, yr OSCE, yr OECD, Cyngor Ewrop, a NATO.[22] Roedd Slofenia 33fed yn y Mynegai Arloesedd Byd-eang yn 2023.[23]