Taekwondo
From Wikipedia, the free encyclopedia
Crefft ymladd o Corea yw Taekwondo a ddatblygwyd yn ystod y 1940au a'r 1950au gan nifer o grefftwyr ymladd Coreaidd, a gyfunodd elfennau o Karate, creftau ymladd o Tsieina ynghyd â thraddodiadau brodorol Taekkyeon, Subak, a Gwonbeop. Ffurfiwyd y corff rheoli hynaf yn 1976, sef Cymdeithas Taekwondo Corea, gan gynrychiolwyr y naw kwan (neu ysgol ymladd) wreiddiol. Yn y blynyddoedd cynnar, mabwysiadwyd y grefft ymladd gan fyddin De Corea, a chafodd hyn gryn effaith ar boblogrwydd Taekwondo drwy'r wlad.[1]
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Enghraifft o'r canlynol | math o chwaraeon |
---|---|
Math | crefft ymladd, chwaraeon olympaidd |
Gwlad | Ymerodraeth Corea |
Enw brodorol | 태권도 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau