Trawiad gwres
From Wikipedia, the free encyclopedia
Math o salwch gwres difrifol yw trawiad gwres, a elwir hefyd yn drawiad haul, ac mae'n achosi i dymheredd y corff gynyddu i dros 40.0 °C (104.0 °F), gall ddioddefwyr deimlo'n ddryslyd o ganlyniad i'r cyflwr.[1] Achosa symptomau eraill hefyd, er enghraifft croen coch, sych neu laith, cur pen a phenysgafnder. Mae modd i'r cyflwr ddatblygu'n raddol neu'n sydyn. Mewn achosion eithafol gall arwain at gymhlethdodau difrifol fel strôc, rhabdomyolysis, neu fethiant yr arennau.
Math | gorwres, trawiad gwres |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Achosir trawiad gwres gan dymereddau allanol uchel neu orweithio corfforol.[2] Mae ffactorau risg yn cynnwys poethdonnau a lleithder uchel; defnyddio rhai cyffuriau megis diwretigion, beta-atalyddion, neu alcohol; clefyd y galon, ac anhwylderau croen. Mewn achosion nad sy'n gysylltiedig â gorymarfer corfforol, y mae'r cyflwr fel arfer yn taro’r rheini sy'n hŷn neu â phroblemau iechyd hirdymor. Rhoddir diagnosis ar sail symptomau. Math o hyperthermia (gorwres) yw trawiad gwres. Mae'n wahanol i dwymyn sy'n achosi cynnydd ffisiolegol yn y pwynt gosod tymheredd.
Gellir osgoi'r cyflwr drwy yfed digon o hylif a chysgodi o wres allanol gormodol.[3] Wrth drin y cyflwr rhaid oeri'r corff yn gyflym. Argymhellir defnyddio dulliau megis chwistrellu'r dioddefwr â dŵr, defnyddio gwyntyll, gosod yr unigolyn mewn dŵr ag iâ, neu gynnig hylifau mewnwythiennol oer. Er bod gosod pecynnau iâ ar yr unigolyn yn synhwyrol, ni argymhellir defnyddio'r dull hwnnw'n unig.