Twrnamaint ddileu
math o gystadleuaeth chwaraeon lle bydd tîm yn chwarae un gêm(fel rheol) yn erbyn tîm er mwyn esgyn ymlaen i'r cymal nesaf gan ennill un gêm ar y tro ymhob cymal i ennill cwpan neu dlws / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae system twrnamaint dileu,[1] dileu fesul cymal, gornest un cyfle,[2] bwrw allan neu, ar lafar, noc owt yn ddull o gynnal twrnamaint chwaraeon. Mae pob cyfranogwr yn chwarae yn erbyn cyfranogwr arall. Mae enillydd y gêm neu'r gemau yn symud ymlaen i'r rownd nesaf ac i'r collwr mae ei rediad yn y twrnamaint yn dod ben.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Enghraifft o'r canlynol | tournament system |
---|---|
Math | twrnamaint |
Y gwrthwyneb | Twrnamaint gron |
Cau
Gelwir y gêm rhwng y ddau dîm neu chwaraewr olaf, sydd felly wedi ennill eu holl gemau hyd at y pwynt hwnnw, yn rownd derfynol neu'n aml yn ffeinal ar lafar.
Weithiau mewn rownd mae'r cyfranogwyr yn chwarae dwy gêm yn erbyn ei gilydd, unwaith yng maes cartref pob cyfranogwr.