Wicipedia:Ar y dydd hwn/23 Mai
From Wikipedia, the free encyclopedia
23 Mai: Diwrnod Rhyngwladol y Crwban
- 1120 (902 blynedd yn ôl) – ail-gladdwyd creiriau'r sant Dyfrig yng nghadeirlan Llandaf, ar ôl eu trosglwyddo o Ynys Enlli
- 1533 (489 blynedd yn ôl) – diddymwyd priodas Harri VIII, brenin Lloegr, a Chatrin o Aragon
- 1832 (190 blynedd yn ôl) – sefydlwyd Cwmni Rheilffordd Ffestiniog, y cwmni rheilffordd hyna'r byd sy'n dal i weithio
- 1970 (52 blynedd yn ôl) – llosgwyd Pont Britannia ar ddamwain gan ddau fachgen
- 1981 (41 blynedd yn ôl) – ganwyd y gantores bop Gwenno Saunders yng Nghaerdydd
- 1995 (27 blynedd yn ôl) – cyrhaeddodd Caradog Jones gopa Mynydd Chomolungma (Everest): y Cymro cyntaf i wneud hynny.