1960au
degawd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd y 1960au yn cael ei weld fel degawd chwyldroadol, gyda newidiadau anferth a ddylanwadodd ar ffasiwn, cerddoriaeth ac agweddau pobl ifanc tuag at gymdeithas. Roedd llawer yn amau syniadau gwleidyddol a chymdeithasol eu rhieni ac yn fwy parod i holi a herio syniadau a’r drefn draddodiadol. Gwelodd y degawd ymgyrchoedd, grwpiau ymgyrchu a phrotestio, yn enwedig ymhlith pobl ifanc a myfyrwyr, a oedd yn awyddus i leisio eu barn ar bynciau fel hawliau pobl dduon, hawliau menywod, hawliau pobl hoyw, yr amgylchedd ac i feirniadu rôl ac ymyrraeth y Llywodraeth. Yn America, bu llawer yn protestio yn erbyn rôl America yn Rhyfel Fietnam, a gwrthododd y bocsiwr Cassius Clay yr alwad gyffredinol i fod yn filwr. Bu actorion fel Jane Fonda hefyd yn protestio’n gyhoeddus yn erbyn ymyrraeth America yn y sefyllfa wleidyddol yn Fietnam. Roedd disgwyliadau a dealltwriaeth pobl o ystyr hawliau sifil a dyletswydd filwrol yn cael eu herio a’u chwalu.
19g - 20g - 21g
1910au 1920au 1930au 1940au 1950au - 1960au - 1970au 1980au 1990au 2000au 2010au
1960 1961 1962 1963 1964 1965 1966 1967 1968 1969
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
CBAC | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Roedd yn ddegawd lle heriwyd disgwyliadau cymdeithas ynghylch ffasiwn dillad, cerddoriaeth, cyffuriau, rhywioldeb, ffurfioldeb ac addysg. Mae’n aml yn cael ei labelu fel degawd y ‘Swinging Sixties’ oherwydd yr ymlacio a fu mewn tabŵs cymdeithasol yn y cyfnod hwn a’r datblygiad mewn amrywiaeth eang o gerddoriaeth; o adfywiad mewn cerddoriaeth werin i chwyldro’r Beatles, i eiriau caneuon Bob Dylan a Paul Simon a oedd yn fwy mewnddrychol.
Dominyddwyd gwleidyddiaeth y cyfnod gan y gwrthdaro rhwng UDA a’r Undeb Sofietaidd, sef y Rhyfel Oer, a’r ‘râs i’r gofod’ a ddatblygodd rhwng y ddau arch-bŵer.[1] Bu ymgyrchoedd uniongyrchol di-drais gan yr SNCC (Student Nonviolent Coordinating Committee) a’r SCLC (Southern Christian Leadership Conference) yn protestio dros hawliau sifil a diwygiadau cymdeithasol. Brawychwyd y byd gan nifer o lofruddiaethau yn ystod y degawd, fel llofruddiaeth John F. Kennedy yn 1963, ond pasiwyd ei ddiwygiadau o ran hawliau sifil i bobl dduon a gofal iechyd i’r bobl hŷn a phobl dlawd gan ei olynydd Lyndon Johnson. Cafodd llofruddiaeth Martin Luther King yn 1968 effaith ysgytwol ar gymdeithas UDA, gan ddiffinio natur dreisgar gwleidyddiaeth y cyfnod. Yn Ewrop roedd mudiadau cymdeithasol newydd yn datblygu ac roedd protestiadau Mai 1968 yn Ffrainc yn crisialu gwrthwynebiad y genhedlaeth ifanc tuag at gyfalafiaeth, materoldeb, sefydliadau traddodiadol a dominyddiaeth America. Bu’n rhaid i’r Arlywydd Charles de Gaulle ffoi o’r wlad am gyfnod.[2]