From Wikipedia, the free encyclopedia
Achos o drais rhywiol yn erbyn merch yn Steubenville, Ohio, UDA, oedd achos trais Steubenville. Cafodd y ferch ei threiddio'n fyseddol pan oedd yn feddw ar noson 11/12 Awst 2012; yn ôl cyfraith Ohio mae byseddu heb gydsyniad yn drais.[1]
Enghraifft o'r canlynol | sexual assault, Sgandal |
---|---|
Dyddiad | 2012 |
Lleoliad | Steubenville |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Cafodd cyfryngau cymdeithasol eu defnyddio gan bobl ifanc yn Steubenville i ledaenu lluniau o'r trais, ond cafodd cyfryngau cymdeithasol hefyd eu defnyddio wrth i'r grŵp Anonymous a defnyddwyr ar-lein eraill defnyddio'r rhyngrwyd i dynnu sylw i'r achos.[2][3][4] Bu cryn beirniadaeth o awdurdodau a thrigolion Steubenville, oedd yn ôl rhai yn bychanu'r drosedd.[5]
Ar 17 Mawrth 2013 cafwyd Trent Mays, 17 oed, a Ma'lik Richmond, 16, yn euog o dreisio'r ferch.[1][6]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.