Aderyn cigysol sy'n bwydo'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gig a gymerir drwy hela neu fel celanedd yw aderyn ysglyfaethus (hefyd aderyn rheibus neu aderyn rheibiol). Mae gan adar ysglyfaethus big fachog, crafangau cryf a golwg ardderchog. Mae'r term yn cynnwys gweilch, eryrod, fwlturiaid, hebogiaid a'u perthnasau. Weithiau, ystyrir tylluanod yn adar ysglyfaethus hefyd er nad ydynt yn perthyn i'r lleill.
Enghraifft o'r canlynol | organebau yn ôl enw cyffredin |
---|---|
Math | avian predator, hypercarnivore |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dosbarthiad
Dosberthir y pum teulu o adar ysglyfaethus dyddiol mewn un urdd, Falconiformes, yn draddodiadol. Mae rhai tacsonomegwyr yn cydnabod un neu ddwy urdd ychwanegol, Cathartiformes ac Accipitriformes.
- Cathartidae: fwlturiaid y Byd Newydd
- Sagittariidae: aderyn y cwils
- Pandionidae: gwalch y pysgod
- Accipitridae: gweilch, eryrod, bodaod, barcutiaid a fwlturiaid yr Hen Fyd
- Falconidae: hebogiaid, hebogiaid coed a characaraod
- Cariamidae: seriemaid
Mae'r dau deulu o dylluanod yn perthyn i urdd y Strigiformes.
Dolenni allanol
- (Saesneg) Global Raptor Information Network Archifwyd 2007-06-30 yn y Peiriant Wayback
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.