Falconidae
teulu o adar From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Teulu o adar yw'r Falconidae, sy'n cynnwys y caracaraod a'r hebogiaid. Ceir oddeutu 60 o rywogaethau, a cheir dau isdeulu: y Polyborinae (sy'n cynnwys y caracaraod) a'r hebog coed Buckley a'r Falconinae: yr hebogiaid go-iawn, y corhebogiaid (falconets) a'r cudyll. Mae'r teulu hwn yn perthyn i'r urdd Falconiformes.
Y prif wahaniaeth rhwng y Falconidae ag eryrod yr Accipitridae yw fod yr hebogiaid yn lladd gyda'u pigau yn hytrach na'u crafangau. Mae ganddynt ddant arbennig ar ochr eu pig yn bwrpasol i ladd.
Mae teulu'r Falconidae yn adar ysglyfaethus bychan - ganolig sy'n amrywio mewn maint o'r corhebog clunddu (a all bwyso cyn lleied â 35 gram (1.2 owns) i hebog y Gogledd a all bwyso cymaint â 1,735 gram (61.2 owns). Mae eu pigau'n gryf iawn ac yn siâp bachyn ac mae ganddynt grafangau crwm a golwg arbennig o dda. Gallant amrywio o ran lliw o frown, i wyn, ac o ddu i lwyd. Ceir gwahaniaeth yn lliwiau'r gwryw a'r fenyw hefyd.
Remove ads
Cyfeiriadau
Llyfryddiaeth
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
