From Wikipedia, the free encyclopedia
Afon yn ne Sir Benfro yw Afon Cleddau. Mae dwy afon Cleddau: Afon Cleddau Wen yn y gorllewin ac afon Cleddau Ddu yn y dwyrain. Ymunant a'i gilydd i ffurfio aber Daugleddau, sy'n rhoi ei enw i borthladd pwysig Aberdaugleddau (mewn canlyniad cyfeirir at yr afon ei hun fel afon Daugleddau weithiau).
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.698736°N 5.117226°W |
Aber | Môr Iwerddon |
Hyd | 67 cilometr |
Ceir dwy ran i Afon Cleddau Wen (ffurf amgen: Cleddy Wen). Tardda'r rhan ddwyreiniol yn Llygad Cleddau ym mhlwyf Llanfair Nant y Gôf, 4 km i'r de-ddwyrain o Abergwaun. Llifa tua'r de-orllewin heibio Scleddau. Tardda'r gangen orllewinol ym Mhenysgwarne ym mhlwyf Llanreithan, a llifa tua'r dwyrain i ymuno a'r gangen arall. Llifa'r Cleddau Wen trwy Gas-blaidd i Hwlffordd, lle ceir effaith y llanw.
Tardda Afon Cleddau Ddu (ffurf amgen: Cleddy Ddu) ar lethrau Mynydd Preselau ym Mlaencleddau ym mhlwyf Mynachlog-ddu, a llifa tua'r de-orllewin heibio Llawhaden. Gwelir effaith o llanw ger Pont Canaston. Ymuna a'r afon Cleddau Wen ym Mhwynt Picton.
Mae aber Daugleddau yn ddwfn ac yn harbwr naturiol da; gall tanceri olew o 300,000 tunnell a mwy ei ddefnyddio. Oherwydd hyn, adeiladwyd nifer o burfeydd olew yma.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.