Aled Rhys Hughes
ffotograffydd o Gymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Artist lens a darlithydd ffotograffiaeth yw Aled Rhys Hughes (ganwyd Mehefin 1966). Cafodd ei eni yn Ynyshir, Cwm Rhondda yn 1966 a bu'n gweithio fel ffotograffydd ers ei arddegau.[1] Mae bellach yn byw yn Rhydaman.
Yn 2004, cyhoeddwyd Môr Goleuni Tir Tywyll (Gomer), cyfrol goffa i Waldo Williams, a oedd yn cynnwys lluniau gan Aled Rhys Hughes a wnaed mewn ymateb i rai o gerddi'r bardd.
Enillodd Aled Rhys Hughes y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 2006 am gyfres o luniau mawr o'r enw Ffarwel Rock, lluniau o'r Mynydd Du yn Sir Gaerfyrddin.
Yn 2008, ymddangosodd cyfres newydd o luniau ochr yn ochr â gwaith bardd, sef Iwan Llwyd, yn y gyfrol arbennig Rhyw Deid yn Dod Miwn (Gomer). Dyfarnwyd Gwobr y Diwydiant i'r gyfrol fel y llyfr lluniau gorau, yn 2010.[2]
Remove ads
Llyfryddiaeth
- Môr Goleuni Tir Tywyll (Gwasg Gomer, 2004)
- Rhyw Deid yn Dod Miwn (Gwasg Gomer, 2008)
- Mametz (Seren, 2016)
Dolenni allanol
- Gwefan bersonol Aled Rhys Hughes Archifwyd 2020-11-24 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads