Bardd a llenor o Sais From Wikipedia, the free encyclopedia
Bardd a llenor o Sais oedd Algernon Charles Swinburne (5 Ebrill 1837 – 10 Ebrill 1909).
Algernon Charles Swinburne | |
---|---|
Ganwyd | 5 Ebrill 1837 Llundain |
Bu farw | 10 Ebrill 1909 o y ffliw Llundain, Putney |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, beirniad llenyddol |
Adnabyddus am | Atalanta in Calydon, Poems and Ballads |
Tad | Charles Henry Swinburne |
Mam | Jane Ashburnham |
llofnod | |
Fe'i ganwyd yn Westminster, Llundain, i deulu bonheddig. Magwyd yn Ynys Wyth. Addysgwyd yng Ngholeg Eton (1849–53) a Choleg Balliol, Rhydychen (1856–60). Yn ddyn ifanc y treuliodd gyfnodau yn Northumberland, a ystyriodd yn famwlad iddo. Rhoddodd ei dad lwfans iddo, felly galluogwyd ef i ddilyn gyrfa lenyddol.
Roedd Swinburne yn un o feirdd telynegol mwyaf medrus y Cyfnod Fictoraidd, ond hefyd un o'r rhai mwyaf dadleol. Roedd ei waith yn destun edmygedd a chondemniad i'w gyfoedion. Arddangodd ysbryd gwrthryfel yn erbyn côd moesol ei gyfnod yn y themâu rhywiol eglur yn ei gasgliad Poems and Ballads (1866),
Tanseiliwyd ei iechyd, nad oedd erioed yn dda, gan ei alcoholiaeth a’i arferion masochistaidd. Ym 1879 dioddefodd argyfwng yn ei iechyd. Fe'i achubwyd gan ei ffrind Theodore Watts-Dunton. Treuliodd Swinburne 30 mlynedd olaf ei fywyd dan warchodaeth Watts-Dunton, a gadwodd reolaeth lem ar ei ffordd o fyw, ac a anogodd Swinburne i ymroi i ysgrifennu. Yn y pen draw, daeth Swinburne yn ffigwr o rywfaint o barchusrwydd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.