Alltwen
pentref yng Nghastell-nedd Port Talbot / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw'r Alltwen (hefyd: Allt-wen[1]). Saif ger Pontardawe ar lethrau dwyreiniol Cwm Tawe.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.715°N 3.846°W |
Cod OS | SN7203 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jeremy Miles (Llafur) |
AS/au | Christina Rees (Llafur) |
Cau
- Am y bryn yn Sir Conwy o'r un enw, gweler Yr Alltwen.
Magwyd y bardd Gwenallt yn y pentref, a chymerodd ei enw barddol o enw'r pentref. Roedd yr actores Rachel Thomas yn enedigol o Allt-wen.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Christina Rees (Llafur).[3]