![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f6/Disability_symbols.svg/langcy-640px-Disability_symbols.svg.png&w=640&q=50)
Anabledd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Anabledd yw cyflwr lle mae un o gyneddfau person yn sylweddol llai effethiol na'r cyffredin i unigolyn yn eu dosbarth. Gall gyfeirio at anabledd corfforol, er enghraifft anallu i gerdded, dallineb, byddardod ac eraill, neu anabledd meddyliol.
![]() Symbolau anabledd | |
Math | nodwedd ![]() |
---|---|
Yn cynnwys | anabledd corfforol, anabledd meddwl, anabledd deallusol, disability affecting intellectual abilities, anabledd datblygiad ![]() |
![]() |
Gall unigolion gael eu geni gydag anabledd neu gallant gael anabledd ar unrhyw gyfnod o'u bywyd o ganlyniad i ddamwain, clefyd neu ddirywiad y corff.[1]
Ar 13 Rhagfyr 2006, cytunodd y Cenhedloedd Unedig ar Gytundeb Hawliau Pobl Anabl, cytundeb hawliau dynol cyntaf y 21ain ganrif. Credir fod tua 650 miliwn o bobl anabl trwy'r byd. Bydd disgwyl i wledydd sy'n arwyddo'r cytundeb ofalu bod eu cyfreithiau yn sicrhau fod gan bobl anabl yr un mynediad at addysg, cyflogaeth a bywyd diwylliannol, yr hawl i berchenogi ac etifeddu eiddo a thriniaeth gydradd o ran priodas a phant.