pensaer Eidalaidd (1508–1580) From Wikipedia, the free encyclopedia
Pensaer o'r Eidal oedd Andrea di Pietro della Gondola (Palladio) (30 Tachwedd 1508 – 19 Awst 1580). Cafodd y llysenw "Palladio" gan Gian Giorgio Trissino, yn cyfeirio at Pallas Athena, duwies doethineb yn y pantheon Groegaidd.
Andrea Palladio | |
---|---|
Ganwyd | Andrea di Pietro della Gondola Tachwedd 1508 Padova |
Bu farw | c. 19 Awst 1580 Vicenza, Maser |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Fenis |
Galwedigaeth | pensaer, damcaniaethwr celf |
Adnabyddus am | Basilica Palladiana, Gallerie dell'Accademia, Villa Saraceno, Villa Almerico Capra (La Rotonda), Gioiello di Vicenza, Church of San Giorgio Maggiore, Teatro Olimpico |
Priod | Allegradonna |
Ganed ef yn Padova, a dechreuodd weithio fel pensaer yn 1540. Bu'n byw yn Vicenza am flynyddoedd, a bu'n gyfrifol am lawer o adeiladau yno. Cafodd ddylanwad mawr ar bensaerniaeth; er enghraiift roedd yn un o'r dylanwadau pwysicaf ar Inigo Jones.
Mae ei lyfr I quattro libri dell'architettura (Fenis, 1570) wedi parhau i fod yn ddylanwadol iawn.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.