Rhywedd anneuaidd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Anneuaidd (hefyd sillafir aneuaidd) neu genderqueer yw term mantell sy'n disgrifio hunaniaethau rhywedd nad ydynt yn wrywaidd na fenywaidd—hunaniaethau sydd y tu allan i'r system rhywedd ddeuaidd.[1][2] Mae hunaniaethau anneuaidd yn dod o dan yr ymbarél trawsrywedd, gan fod pobl anneuaidd fel arfer yn uniaethu â rhywedd sy'n wahanol i'w rhyw a bennwyd adeg eu genedigaeth,[2] er nad yw rhai pobl anneuaidd yn ystyried eu hunain yn drawsryweddol.[3] Enby (o'r talfyriad Saesneg 'NB') yw enw arall ar gyfer anneuaidd.[4]
Trawsrywedd |
---|
Hunaniaethau |
Androgynedd · Anneuaidd · Dau-Enaid · Dyn traws · Kathoey · Menyw draws · Trydydd rhywedd |
Pynciau |
Cwestiynu · Trawsrywioldeb |
Agweddau clinigol a meddygol |
Dysfforia rhywedd · Llawdriniaeth ailbennu rhyw · Therapi hormonau trawsryweddol |
Agweddau cyfreithiol a chymdeithasol |
Cydnabyddiaeth gyfreithiol · Symbolau · Trawsffobia · Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 |
Rhestrau |
Pobl |
Categori |
Gall pobl anneuaidd uniaethu bod ganddynt ddau neu dri rhywedd (bod yn ddeuryweddol neu'n drirhyweddol);[5][6] nad yw ganddynt rywedd (anrhywedd/agender, di-rywedd/non-gendered); eu bod yn symud rhwng ryweddau neu fod ganddynt hunaniaeth rhywedd sy'n newid (rhywedd-hylif/genderfluid);[7] eu bod yn drydydd rhywedd neu wedi'u rhyweddu'n arall (categori sy'n cynnwys y rheini nad ydynt yn rhoi enw i'w rhywedd).[8]
Mae hunaniaeth rhywedd ar wahân i gyfeiriadedd rhywiol neu ramantaidd,[9] ac mae gan bobl anneuaidd amrywiaeth o gyfeiriadedd rhywiol, yn union fel pobl gydryweddol.[10]
Nid yw hunaniaethau rhywedd anneuaidd yn gysylltiedig â mynegiant rhywedd penodol, megis androgynedd. Mae gan bobl anneuaidd fel grŵp amrywiaeth eang o fynegiannau rhywedd, ac gall rhai wrthod "hunaniaethau" rhywedd yn gyfan gwbl.[11] Mae rhai pobl anneuaidd yn cael triniaeth feddygol ar gyfer dysfforia rhywedd gyda llawdriniaeth neu hormonau, fel y mae dynion traws a menywod traws yn aml.