![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a3/Annie_Kenney%252C_1909.jpg/640px-Annie_Kenney%252C_1909.jpg&w=640&q=50)
Annie Kenney
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Ann "Annie" Kenney (13 Medi 1879 - 9 Gorffennaf 1953) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched; roedd yn ffigwr blaenllaw yn Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (the Women's Social and Political Union). Cyd-sefydlodd ei changen gyntaf yn Llundain gyda Minnie Baldock.[1]
Annie Kenney | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 13 Medi 1879 ![]() Springhead ![]() |
Bu farw | 9 Gorffennaf 1953 ![]() Hitchin ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, swffragét, ymgyrchydd dros hawliau merched ![]() |
Priod | James Taylor ![]() |
Plant | Warwick Kenney-Taylor ![]() |
Gwobr/au | Medal y Swffragét ![]() |
Fe'i ganed yn Springhead, Manceinion Fwyaf ar 13 Medi 1879 a bu farw yn Hitchin, Letchworth Garden City, tref yn Swydd Hertford yn 73 oed.[2][3][4][5][6]
Denodd Kenney sylw'r wasg a'r cyhoedd yn 1905 pan gafodd hi a Christabel Pankhurst eu carcharu am sawl diwrnod am ymosod a rhwystro, ar ôl tarfu ar y gwleidydd Syr Edward Gray drwy weiddi mewn rali Rhyddfrydol ym Manceinion ar fater pleidleisiau i fenywod, sef 'etholfraint'. Credir fod y digwyddiad hwn yn garreg filltir bwysig, ac yn gam pendant ymlaen yn y frwydr dros y bleidlais a hawliau eraill i fenywod yng ngwledydd prydain. Ymhlith cyfeillion eraill Annie roedd Emmeline Pethick-Lawrence, y Farwnes Pethick-Lawrence, Mary Blathwayt, Clara Codd, ac Adela Pankhurst.