From Wikipedia, the free encyclopedia
Israniad y linell-amser ddaearegol yw'r Archeaidd (neu Archaean) sy'n un o eonau'r Cyn-Gambriaidd. Ceir 4 eon, gyda phob un yn ymestyn am ysbaid o dros 500 miliwn o flynyddoedd. Digwyddodd yr Archeaidd rhwng 4,000 a 2,500 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP) h.y. 4 - 2.5 biliwn CP, yn dilyn yr eon Hadean a gan ragflaenu'r Proterosöig.
Enghraifft o'r canlynol | eon, eonothem |
---|---|
Rhan o | Cyn-Gambriaidd, Graddfa Cronostratigraffig Fyd-eang Safonol (Daeargronolegol) ICS |
Dechreuwyd | c. Mileniwm 4001. CC |
Daeth i ben | Mileniwm 2501. CC |
Rhagflaenwyd gan | Hadeaidd |
Olynwyd gan | Proterosöig |
Yn cynnwys | Neoarchean, Mesoarchean, Paleoarchean, Eoarchean |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ystod yr Archeaidd, roedd crwst y Ddaear, a'i haenau o greigiau gwahanol, newydd eu ffurfio, a olygai fod tymheredd y Ddaear ychydig yn is nag yn yr Hadean. Golygai hyn y gallai cyfandiroedd gael eu ffurfio.[1] Er nad yw gwyddonwyr yn gwbwl sicr, credir erbyn hyn i fywyd syml: un gell efallai gael ei ffurfio tua diwedd yr Hadean neu efallai ar gychwyn yr Archaean.
Cyn-Gambriaidd | |||
---|---|---|---|
Hadeaidd | Archeaidd | Proterosöig | Ffanerosöig |
Daw'r gair Archeaidd o'r Hen Roeg Αρχή (Arkhē), sef "cychwyn, tarddiad". Fe'i bathwyd yn 1872, gan olygu "o'r cyfnod cynharaf (yn ddaearegol)." Y rheswm am hyn yw fod yr Hadean a'r Archaean yn un yr adeg honno.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.