Arddulleg
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwyddor arddull lenyddol yw arddulleg.[1] Mae'r ddisgyblaeth hon yn gangen o ieithyddiaeth gymhwysol ac yn cysylltu beirniadaeth lenyddol ag ieithyddiaeth drwy astudio a dehongli testunau yn ôl eu harddull ieithyddol a thonaidd.[2][3][4] Defnyddir arddulleg i astudio amrywiaeth eang o destunau, gan gynnwys gweithiau canonaidd, llên boblogaidd, hysbysebion, newyddiaduraeth,[5] deunydd ffeithiol, a diwylliant poblogaidd, yn ogystal â disgwrs wleidyddol a chrefyddol.[6]
Math | ieithyddiaeth |
---|---|
Rhan o | stylistics and textual analysis |
Ieithyddiaeth |
Ieithyddiaeth ddamcaniaethol |
Seineg |
Ffonoleg |
Morffoleg |
Cystrawen |
Semanteg |
Semanteg eiriadurol |
Arddulleg |
Pragmateg |
Ieithyddiaeth hanesyddol |
Ieithyddiaeth gymdeithasegol |
Ieithyddiaeth gymharol |
Caffael iaith |
Ieithyddiaeth gymhwysol |
Ieithyddiaeth wybyddol |
Ymdrecha arddulleg gysyniadol i osod egwyddorion sy'n egluro'r dewision a wneir gan awduron wrth ddefnyddio'r iaith, megis genre, celfyddyd werin, tafodiaith a chywair, dadansoddi disgwrs, a beirniadaeth lenyddol. Ymhlith nodweddion cyffredin arddull mae ymgom ac ymsom, acenion, gramadeg, ac hyd y frawddeg.