![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8c/3D_Medical_Animation_Nose_Top_section.jpg/640px-3D_Medical_Animation_Nose_Top_section.jpg&w=640&q=50)
Arogleuo
From Wikipedia, the free encyclopedia
Arogleuo (neu arogli, gwynto; Saesneg: Olfaction) yw system y corff o dderbyn gwybodaeth am fater organig (fel bwyd), yn aml er mwyn i'r person neu'r anifail wybod a ydyw'n beryglus ai peidio. Mae'n gweithio ar y cyd gyda blasu fel arfer.[1]
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | synnwyr ![]() |
---|---|
Math | canfyddiad ![]() |
Rhan o | y pum synnwyr ![]() |
Yn cynnwys | Aroglau ![]() |
![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/20/Olfactory_system.svg/640px-Olfactory_system.svg.png)
Mae'n digwydd pan fo'r aroglau ('arogleuon'; hefyd: 'sawr' neu yn Ne Cymru: 'gwynt') yn ymglymu i'r derbynnwyr arogleuol (olfactory receptors) yng ngheudod y trwyn.[2] Mae'r Glomerwlws yn danfon signalau o'r derbynnwyr i'r bulbus olfactorius ble mae'n dechrau rhyngweithio gyda rhan o'r ymennydd sy'n ymweneud ag adnabod arogleuo, cof ac emosiwn.[3] Mae gan lawer o organebau sy'n byw ar y tir (ee pobl, cathod) ddwy system wahanol ar gyfer blasu ac arogleuo ond un system yn unig sydd gan y rhan fwyaf o organebau sy'n byw mewn dŵr.[4]