![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/18/Edward_I_%2526_II_%2528cropped%2529.jpg/640px-Edward_I_%2526_II_%2528cropped%2529.jpg&w=640&q=50)
Arwisgiad Tywysog Cymru
From Wikipedia, the free encyclopedia
Arwisgiad Tywysog Cymru yw'r seremoni o arwisgo mab hynaf teyrn Lloegr a rhoi’r teitl Tywysog Cymru iddo. Roedd y teitl ‘Tywysog Cymru’ wedi ei roi i etifedd gorsedd Lloegr ers 1301, pan roddodd y Brenin Edward I y teitl i'w fab fel symbol o reolaeth ar Gymru, ond nid oedd y teitl erioed wedi cael ei ddefnyddio’n ffurfiol mewn gwirionedd. Bu'n arferiad trefnu’r arwisgiad yn y Senedd yn Llundain[1] ond yn 1911 cynhaliwyd y seremoni am y tro cyntaf mewn lleoliad cyhoeddus, sef Castell Caernarfon. Yn y flwyddyn honno, cynhaliwyd Arwisgiad Tywysog Cymru, yn ddiweddarach Edward VIII, yn y castell, a chredir bod David Lloyd George wedi bod yn allweddol yn y gwaith o drefnu’r digwyddiad. Yn wahanol i Arwisgiad 1911, bu llawer mwy o wrthwynebiad i achlysur Arwisgiad 1969 gan genedlaetholwyr Cymreig.
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |