Arwystli
cantref yn ne Teyrnas Powys / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cantref yn ne Teyrnas Powys (gorllewin canolbarth Powys heddiw) oedd Arwystli. Mae'n enw sy'n fyw o hyd; fe'i gwelir yn yr enw lle 'Pen Pumlumon Arwystli', un o bum copa Pumlumon, er enghraifft. Roedd y cantref yn fynyddig ac yn cynnwys rhannau uchaf Dyffryn Hafren.
Ffeithiau sydyn
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959 Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies) | |
Cau
Gorweddai Arwystli yn ne-orllewin y deyrnas. Pan ranwyd Powys yn ddwy ran yn 1160 daeth yn rhan o Bowys Wenwynwyn. Ffiniai'r cantref â Ceri, Maelienydd, Gwerthrynion a Chwmwd Deuddwr i'r de (Rhwng Gwy a Hafren), cantref Penweddig a rhan o gwmwd Mefenydd i'r gorllewin (Ceredigion), a chantrefi Cyfeiliog, Caereinion (rhan fechan) a Cedewain i'r gogledd, ym Mhowys ei hun.
Rhennid Arwystli yn ddau gwmwd gan goedwig fawr, sef:
- Arwystli Is Coed (canolfannau: Caersws, Llangurig)
- Arwystli Uwch Coed (canolfannau: Talgarth, Llandinam)