Balli Kombëtar
Ffrynt Genedlaethol Albania Ail Ryfel Byd, Albania Fawr / From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd y Balli Kombëtar (Ffrynt Genedlaethol) yn fudiad genedlaethol Albanaidd gwrth-gomiwnyddol a sefydlwyd ym mis Tachwedd 1942, gan Ali Këlcyra a Midhat Frashëri. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymladdodd yn gyntaf yn erbyn yr Eidal Mussolini ac yn ddiweddarach yn erbyn meddianwyr Natsiaid yr Almaen yn Albania. Fodd bynnag, cydweithiodd rhannau o'r Balli Kombëtar â phwerau'r Echel hefyd. Ar dir Gwlad Groeg ac Iwgoslafia, rhoddon nhw gymorth i'r fyddin Almaenig, y Wehrmacht i ymladd y Comiwnyddion y tu mewn i'r wlad ac yn erbyn y Iwgoslafiaid.
Bwriad y Balli Kombëtar oedd uno'r holl Albaniaid ethnig mewn un wladwriaeth annibynnol, yr hyn a elwir yn Albania Fawr, ond a elwir gan yr Albanaidid yn Shqipëria Etnike (Albania Ethnig). Roedd y wladwriaeth yma i gynnwys, Albania, parthau Albanaidd dros y ffin ym Montenegro, Cosofo, ardaloedd Albanaidd gorllewin Macedonia ac Epirus yng Ngwlad Groed. Am gyfnod rhwng 1941-44 roedd 'Albania Fawr' yn realiti wrth i'r Eidalwyr ac yna, wedi cwymp yr Eidal, yr Almaen, gefnogi ac arddel y diriogaeth yma.
Er i'r Balli Kombëtar wrthwynebu'r Eidalwyr, mae'n eironig feddwl mai dim ond oherwydd concwest yr Eidal o Albania a'r Almaen o Iwgoslafia yn 1941 y llwyddwyd i uno'r Albaniaid mewn un gwladwriaeth am y tro cyntaf erioed yn y cyfnod modern. O ganlyniad i hyn, mae gan nifer o Albaniaid deimladau cymysg am gyfnod yr Ail Ryfel Byd.