uno tiroedd Albaniaid mewn un gwlad From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r term Albania Fawr yn cyfeirio at y tiriogaethau sy'n cynnwys holl boblogaeth (neu ardaloedd traddodiadol) lle mae pobl Albaneg yn byw gyda'r bwriad o'u huno mewn un wladwriaeth Albanaidd. Gellir cael amrywiaethau ar yr union ffiniau y dyheuad yma ond mae'n cynnwys y cyfan o wladwriaeth gyfoes Albania, Cosofo, rhannau gorllewinnol Gweriniaeth Macedonia lle mae'r Albaniaid yn byw, rhannau deheuol o Montenegro ac, mewn rhai achosion, rhan ogleddol rhanbarth Epirus yng ngogledd Gwlad Groeg, er bod yr iaith wedi colli tir yno yn ddiweddar.
Enghraifft o'r canlynol | Iredentiaeth, proposed country, proposed administrative territorial entity, great homeland |
---|---|
Yn cynnwys | unification of Albania and Kosovo |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Er mai 'Albania Fawr' a ddefnyddir gan amlaf gan wledydd tramor i ddisgrifio'r dyheuad yma, mae'n well gan yr Albaniad ei hunain yn term, 'Albania Ethnig' (Shqipëria Etnike) neu 'Ail-uno Cenedlaethol Albania' (Ribashkimi kombëtar shqiptar).[1] Dadl yr Albaniaid yw bod defnyddio term 'Albani Fawr' yn gamarweiniol a'i fod fel petai rhan o Gymru wedi ei thorri oddi ar Gymru yn erbyn ei hewyllus a bod galw am ail-uno Cymru gysystyr â dyheuad imperialaidd.
Rhanwyd yr Albaniaid rhwng pedwar vilayet o fewn Ymerodraeth Otomanaidd Twrci; Cosofo, Scutari, Monastir a Janina. Ystyrir mai sefydlu Cynghrair Prizren (sef cyngor yn Cosofo) yn 1878 oedd man cychwyn y mudiad cenedlaethol Albanaidd fodern. Galwai'r Albanaid am uno'r Albaniaid o fewn un vilayet o fewn yr Ymerodraeth[2] ac am sicrhau hawliau diwylliannol ac ieithyddol. Roedd hunaniaeth Albanaidd yn dal yn deyrngar i'r Ymerodraeth yn rannol gan mai Mwslemiaid oedd mwyafrif yr Albaniaid.
Gyda Rhyfel y Balcan cwympodd awdurdod yr Ymerodraeth a datganodd Ismail Qemali annibyniaeth Albania ar 28 Tachwedd 1912 yn Vlorë.[3] y brif sbardun dros datgan annibyniaeth oedd i rwystro tiroedd Albanaidd yn cael eu meddiannu gan wlad Groeg a Serbia.[3][4]. Roedd gwrthwynebiad i'r syniad o Albania 'fawr' ar sail creu gwladwriaeth Mwslim yn Ewrop[5]. Tra roedd eraill, megis Awstria a'r Eidal, yn barod i gefnogi rhyw ystym ar wladwriaeth Albanaidd er mwyn rhwystro Serbia (a'i chefnogwyr, Rwsia) rhag cael arfordir lle gallai reoli'r môr Adriatig.[6][7][8][9][10].[11][12][13].
Ysywaith, yn sgil Cytundeb Llundain 1913 er i wladwriaeth newydd Albania gael ei chreu a'i chydnabod roedd tua hanner y tiriogaethau Albaniaidd a 40% o'r boblogaeth y tu allan i ffiniau'r wlad newydd,[14] rhywbeth y mae Albaniaid wedi tueddu i ystyried fel anghyfiawnder a osodir gan y Pwerau Mawr.
Yr unig bryd i'r Albaniaid cael eu huno o fewn un wladwriaeth yn y cyfnod modern yw yn ystod yr Ail Ryfel Byd o dan chydsyniad yr Eidal a'r Almaen.
Yn 1939, aeth y Plaid Ffasgaidd Albania yn blaid llywodraethol Albania o dan reolaeth ffasgaidd yr Eidal. Cytunodd y Prif Weinidog, Shefqet Verlaci, i uno Albania gyda'r Eidal gan ei fod eisiau cefnogaeth yr Eidal i uno Cosofo a'r tiroedd Albanaidd eraill i 'Albania Fawr'. Gwireddwyd y freuddwyd yma wedi i bwerau'r Echel (Axis) feddiannu Iwgoslafia a Groeg ym mis Mai 1941 ac unwyd bron y cyfan o diroedd Albanaidd mewn un talaith.[15][16]. Cefnogwyd y drefn newydd gan y grwp cenedlaetholaidd milwrol, Balli Kombëtar - yr bod y Balli yn erbyn rheolaeth yr Eidal a'r Almaen ar ei tir. O fewn y tiriogaeth gwnaethpwyd Albaneg yn iaith swyddogol ac iaith addysg a defnyddiwyd y Franc Albanaidd fel arian. Roedd y tiriogaeth yn cynnwys y cyfan o Albania, bron y cyfan o Cosofo, rhan o Macedonia a darnau llai o Montenegro. Arhosodd ardal Chameria o dan reolaeth filwrol yr Eidal yng ngwlad Groeg, ac felly, yn dechnegol, yn rhanbarth o Roeg.
Gyda cwymp lluoedd yr Echel yn 1944 yn Iwgoslafia, chwalwyd undod 'Albania Fawr'.
Nôd Byddin Rhyddhau Cosofo (KLA) oedd gwahanu Cosofo oddi ar Iwgoslafia gan greu Albania Fawr yn cwmpasu Cosofo, Albania, a lleiafrif ethnig Alanaidd yn Macedonia. Mynnodd Cadlywydd y KLA Sylejman Selimi: "Mae'r genedl Albanaidd yn bodoli, de facto. Y drychineb yw bod pwerau Ewropeaidd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf yn penderfynu rhannu'r genedl honno rhwng nifer o wladwriaethau Balcan. Rydym bellach yn ymladd i uno'r wlad, i ryddhau pob Alban, gan gynnwys y rhai yn Macedonia, Montenegro, a rhannau eraill o Serbia. Nid Cosofo yn unig fyddwn ni'n rhyddhau."
Daeth yr ymladd dros annibyniaeth Cosofo oddi wrth Iwgoslafia gyda Chytuneb Kumanovo ar 9 Mehefin 1999. Gydag hynny dechreuwyd y broses o gydnabod Cosofo fel gwladwriaeth annibynnol arwahân i Albania.
Ym mis Chwefror 2001 dechreuwyd gwrthryfel Albanaidd gan yr Byddin Rhyddid Cenedlaethol (Albaneg: Ushtria Çlirimtare Kombëtare - UÇK) dros uno rhannau Albanaidd Macedonia gyda Cosofo. Nôd y UCK oedd ennill hawliau cyfartal i'r Albaniaid o fewn Macedonia Cyf-ffederal.[17] Mynodd uwch swyddogion o fewn y mudiad; "Dydym ni ddim eisiau tanseilio sefydlogrwydd a undod tiriogaethol Macedonia, ond wnawn ni ymladd rhyfel guerrilla nes i ni ennill ein hawliau sylfaenol, nes i ni gael ein derbyn fel pobl gyfartal o fewn Macedonia." [18] Daeth yr ymladd i ben gyda Dealltwriaeth Ohrid ar 13 Awst 2001 pan gytunwyd ar hawliau ieithyddol a chenedlaethol i'r Albaniaid ym Macedonia ond i gadw ffiniau'r wlad.
Nid tirogaethau yr Albaniaid oedd yr unig tiroedd i'w huno gan luoedd Mussolini yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Unwyd tirogaethau'r Somaliaid o dan reolaeth yr Eidal i wireddu uno Somalia gyfoes, Somaliland, Jibwti, Ogaden (yn Ethiopia gyfoes), gogledd-ddwyrain Cenia eraill i greu Somalia Fawr.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.