Baner Eritrea
baner / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mabwysiadwyd baner Eritrea yn swyddogol ar 5 Rhagfyr 1995. Ffurfir y faner o dri thriongl: dau driongl ongl sgwâr mewn gwyrdd (top) a glas (gwaelod) gyda thriongl isosgeles coch rhyngddynt. Gyda'i gilydd, mae'n ffurfio petryal gyda chymhareb o 1: 2. Canol y gangen olewydd yw chwarter hyd y faner.[1] Mae Eritrea yn wlad yng ngogledd ddwyrain Affrica ar lan y Môr Coch.