ffilm ffantasi a chomedi gan Roger Vadim a gyhoeddwyd yn 1968 From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffilm rhwng Ffrainc a'r Eidal ydy Barbarella a ddaeth allan 10 Hydref 1968,[4]} ganwneud $2.5 miliwn mewn incwm am logi'r fideo yn unig yng Ngogledd America yn 1968.[3] Fe'i sefydlwyd ar gomic Ffrangeg gan Jean-Claude Forest. Seren y ffilm yw Jane Fonda ac fe'i cynhyrchwyd gan Roger Vadim, gŵr Fonda ar y pryd. Doedd y ffilm ddim yn boblogaidd yn Ewrop pan ddaeth allan ond wedi 1977 daeth yn boblogaidd a bellach mae'n 'gwlt'.
Barbarella | |
---|---|
Poster o'r ffilm; Ffrainc | |
Cyfarwyddwyd gan | Roger Vadim |
Cynhyrchwyd gan | Dino De Laurentiis |
Awdur (on) |
|
Sgript |
|
Seiliwyd ar | Barbarella gan Jean-Claude Forest |
Yn serennu |
|
Cerddoriaeth gan | Maurice Jarre[1] |
Sinematograffi | Claude Renoir |
Golygwyd gan | Victoria Mercanton |
Dosbarthwyd gan | Paramount Pictures |
Rhyddhawyd gan | 10 Hydref 1968 |
Hyd y ffilm (amser) | 98 munud |
Gwlad | Ffrainc yr Eidal |
Iaith | Ffrangeg Saesneg |
Cyfalaf | $9 miliwn[2] |
Gwerthiant tocynnau | $2.5 miliwn (US)[3] |
Ffilm wyddonias ydy Barbarella, ble mae'r seren, Barbarella'n cael tasg gan Llywydd y Ddaear, sef achub 'Doctor Durand Durand' o ardal y Tau Ceti. Mae Durand Durand wedi dyfeisio arf: y Positronic Ray, ac mae pobl y Ddaear yn ofni yr eith i ddwylo anghywir. Mae Barbarella'n cael ei chipio ar Blaned 16 yn Tau Ceti ond daw Mark Hand i'w hachub. Fel gwobr, mae hi'n cael rhyw efo fo. Wrth gael rhyw, mae'r roced yn crashio ond mae Hand yn ei drwsio. Mae'r ddau'n gwahanu, efo'r addewid y gwneith ddod yn ôl.
Mae'n mynd i drwbwl tebyg sawl tro wedi hyn, cyn iddi hi achub y Doctor.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.