Bellis perennis
Blodyn bach cyfarwydd ar lawntiau a phorfeydd cwta ymhobman bron. / From Wikipedia, the free encyclopedia
Planhigyn blodeuol yw llygad y dydd (Lladin: Bellis perennis; Saesneg: Daisy) sy'n aelod o deulu'r Asteraceae. Ceir sawl rhywogaeth o lygad y dydd ond mae'r enw fel arfer yn cyfeirio at Bellis perennis sef y mwyaf cyffredin yng Nghymru.
Delwedd:Belis peremnis - panoramio.jpg, Bellis perennis white (aka).jpg, 00 4448 Gänseblümchen (Bellis perennis).jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Safle tacson | rhywogaeth |
Rhiant dacson | Bellis |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bellis perennis | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosperms |
Ddim wedi'i restru: | Eudicots |
Ddim wedi'i restru: | Asterids |
Urdd: | Asterales |
Teulu: | Asteraceae |
Genws: | Bellis |
Rhywogaeth: | B. perennis |
Enw deuenwol | |
Bellis perennis L. | |
Cyfystyron[1] | |
|
Mae'r gair Saesneg daisy yn tarddu o'r geiriau "day's eye" yn union fel llygad y dydd.
Mae Bellis perennis yn frodorol o ganol a gogledd Ewrop, ond bellach wedi ymgyfatrebu mewn gwledydd cynnes e.e. yr Americas.[2][3] and Australasia.
Planhigyn llysieuol ydyw gyda rhisomau byr sy'n cropian a rhosynnau o ddail bychan crwn (neu o siap llwyau) sydd rhwng 2–5 cm (3/4 - 2 fodfedd) o hyd. Yn aml, fe'i gwelir mewn lawntiau a gall fod yn anodd ei ddileu drwy beiriant torri gwair; gellir ei alw felly'n chwynyn.[4]
Mae'r blodau'n gyfansawdd, ar ffurf pseudanthiwm, ac wed'u ffurfio o nifer o flodau tua 2–3 cm (3/4 to 1-1/4) mewn diametr, a choron o betalau bychan, weithiau gyda'r pwyntiau'n binc. Maent yn tyfu at un bonyn approx. 2–10 cm (3/4 - 4 mod) o daldra.[5]