From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd, cyfreithiwr a barnwr o Fecsico oedd Benito Pablo Juárez García (21 Mawrth 1806 – 18 Gorffennaf 1872) a fu'n Arlywydd Mecsico o 1861 i 1872.[1]
Benito Juárez | |
---|---|
Ganwyd | 21 Mawrth 1806 San Pablo Guelatao |
Bu farw | 18 Gorffennaf 1872 Dinas Mecsico |
Dinasyddiaeth | Mecsico |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfreithiwr, barnwr, gwleidydd |
Swydd | Arlywydd Mecsico, Governor of Oaxaca, President of the Supreme Court of Justice of the Nation, Governor of Oaxaca |
Plaid Wleidyddol | Liberal Party |
Priod | Margarita Maza |
Plant | Benito Juárez Maza |
llofnod | |
Ganed Benito Pablo Juárez García ar 21 Mawrth 1806 ym mhentref San Pablo Guelatao, Oaxaca, Sbaen Newydd. Gwerinwyr Zapotec oedd ei rieni, a fuont farw pan oedd Benito yn 3 oed. Cafodd ei fagu gan ei daid a'i nain, ac yna ei ewythr, cyn iddo symud i ddinas Oaxaca yn 12 oed i fyw gyda'i chwaer. Yn Oaxaca gweithiodd Benito i rwymwr llyfrau o'r enw Don Antonio Salanueva a chafodd wersi gydag athro lleol. Yr iaith Zapotec oedd ei unig iaith nes iddo dderbyn addysg a dysgu'r Sbaeneg yn Oaxaca.[2]
Fe'i hyfforddwyd i fod yn offeiriad yng Ngholeg Diwinyddol Santa Cruz nes 1827.[2] Penderfynodd Benito dilyn galwedigaeth arall, a chafodd ei dderbyn i Athrofa Celfyddydau a Gwyddorau Oaxaca ym 1829 i astudio'r gyfraith, ac enillodd ei radd ym 1831.[1]
Oherwydd y nifer fawr o gyfreithwyr a oedd yn cystadlu am swyddi yn y proffesiwn hwnnw, trodd Juárez ei sylw at fyd gwleidyddiaeth, ac ymunodd â chyngor dinesig Oaxaca ym 1831. Fe'i etholwyd ym 1835 i gynrychioli'r ddinas, fel aelod o'r Blaid Ryddfrydol, yn y ddeddfwrfa ffederal.[2] Enillodd enw iddo'i hun fel gwas cyhoeddus gonest a diymhongar a chanddo daliadau rhyddfrydol a diwygiadol. Yn ogystal â'i dyletswyddau gwleidyddol, bu Juárez hefyd yn trin y gyfraith ac yn cynrychioli cymunedau brodorol tlawd yn y llysoedd.
Yng nghyfnod y Weriniaeth Ganoliaethol (1835–46), penodwyd Juárez i sawl swydd broffesiynol a gwleidyddol gan yr awdurdodau Ceidwadol yn nhalaith Oaxaca, er enghraifft yn farnwr ffederal ym 1841. Fodd bynnag, ni cheisiodd Juárez ymwneud â gwleidyddiaeth etholedig am nifer o flynyddoedd.
Priododd Benito Juárez â Margarita Maza, merch o deulu cyfoethog, ym 1843. Wedi i'r Blaid Ryddfrydol, dan yr Arlywydd Valentín Gómez Farías, ail-gipio grym ym 1846, dychwelodd Juárez at fyd gwleidyddiaeth.
Penodwyd Juárez yn llywodraethwr dros dro Oaxaca ym 1847, a fe'i etholwyd i'r swydd honno ym 1848. Aeth ati i gyfyngu ar lygredigaeth yn y llywodraeth daleithiol ac i adeiladu ffyrdd, ysgolion, ac adeiladau cyhoeddus. Daeth ei gyfnod yn y swydd i ben ar 12 Awst 1852.
Wedi i'r Ceidwadwyr gipio grym dan Antonio López de Santa Anna a Lucas Alamán ym 1853, alltudiwyd arweinwyr y Blaid Ryddfrydol, gan gynnwys Juárez. O Ragfyr 1853 hyd at Fehefin 1855, bu Juárez yn byw'n dlawd yn New Orleans, Unol Daleithiau America. Parhaodd i gysyllti â Rhyddfrydwyr eraill a chynlluniasant i ddychwelyd i Fecsico ac adfer y drefn Ryddfrydol. Cytunodd Juan Álvarez, Ignacio Comonfort, a Juárez ar Gynllun Ayutla i ddymchwel Sant Anna, a chwympodd y llywodraeth Geidwadol ym 1855.
Yn sgil buddugoliaeth y Rhyddfrydwyr, dychwelodd Juárez i Fecsico ac ymunodd â llywodraeth newydd yr Arlywydd Juan Álvarez yn swyddi'r gweinidog cyfiawnder a gweinidog addysg gyhoeddus. Yn y cyfnod hwn, gwasanaethodd Juárez hefyd yn Llywodraethwr Oaxaca unwaith eto, o 10 Ionawr 1856 i 3 Tachwedd 1857.
Bu farw Benito Juárez ar 18 Gorffennaf 1872 yn Ninas Mecsico yn 66 oed, o drawiad ar y galon. Fe'i cleddir yn Panteón de San Fernando yn Ninas Mecsico. Olynwyd yr arlywyddiaeth gan Sebastián Lerdo de Tejada.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.