![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8b/Billy_meredith_city.jpg/640px-Billy_meredith_city.jpg&w=640&q=50)
Billy Meredith
pêl-droediwr / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyn bêl-droediwr o Gymro oedd William Henry "Billy" Meredith (30 Gorffennaf 1874 – 19 Ebrill 1958). Roedd yn cael ei ystyried yn un o sêr cyntaf y gamp oherwydd ei berfformiadau i Manchester City a Manchester United[2] a chafodd 48 cap dros Gymru rhwng 1895 a 1920. Meredith yw'r chwaraewr hynaf i ennill cap dros Gymru - pan gamodd i'r maes yn erbyn Lloegr ym 1920 yn 45 mlwydd a 229 diwrnod oed.[3][4]
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Billy Meredith | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 30 Gorffennaf 1874 ![]() Y Waun ![]() |
Bu farw | 19 Ebrill 1958, 17 Ebrill 1958 ![]() Manceinion ![]() |
Man preswyl | Y Waun ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Galwedigaeth | pêl-droediwr ![]() |
Taldra | 175 centimetr ![]() |
Gwobr/au | National Football Museum Hall of Fame ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Manchester United F.C., Northwich Victoria F.C., Manchester City F.C., Chirk AAA F.C., Port Vale F.C., Manchester City F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru ![]() |
Safle | hanerwr asgell ![]() |
Gwlad chwaraeon | Cymru ![]() |
Cau
Ffeithiau sydyn Gyrfa Ieuenctid, Gyrfa Lawn* ...
Gyrfa Ieuenctid | |||
---|---|---|---|
Black Park | |||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
1890–1892 | Y Waun | ||
1892–1894 | Northwich Victoria | 11 | (5) |
1894–1906 | Manchester City | 339 | (129) |
1906–1921 | Manchester United | 303 | (35) |
1921–1924 | Manchester City | 28 | (0) |
Cyfanswm | 681 | (169) | |
Tîm Cenedlaethol | |||
1895–1920 | Cymru | 48 | (11[1]) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Cau
Chwaraeodd Meredith ran allweddol wrth sefydlu Undeb y Chwaraewyr (Saesneg: Players' Union), rhagflaenydd Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol (Saesneg: Professional Footballers' Association (PFA)) ym 1907.[5]
Roedd ei frawd hŷn, Sam, hefyd yn bêl-droediwr proffesiynol - gyda Stoke City a Chymru.[6]