From Wikipedia, the free encyclopedia
Page Modiwl:Message box/ambox.css has no content.
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. |
Bobi yn 2023 | |
Enghraifft o'r canlynol | ci, anifail unigol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ci o frîd Rafeiro do Alentejo o Bortiwgal oedd Bobi (11 Mai 1992 – 21 Hydref 2023) a gydnabyddir fel y ci hynaf erioed y gellir cadarnhau ei oedran. Bu farw yn 31 mlynedd a 165 diwrnod oed (11,478 o ddyddiau ar y ddaear i gyd). Treuliodd Bobi ei holl fywyd gyda'r teulu Costa ym mhentref Conqueiros, Portiwgal.[1]
Ar 2 Chwefror 2023 derbyniodd gydnabyddiaeth Guinness World Records fel y ci cyntaf i gyrraedd 30 oed, a'r ci hynaf erioed, gan dorri record a osodwyd gan Bluey (1910–39), Ci Gwartheg Awstralaidd, a fu farw yn 29 mlynedd a phum mis oed. Cadarnhawyd oedran Bobi gan y gronfa ddata o anifeiliaid anwes a gedwir gan Undeb Cenedlaethol y Milfeddygon ar gyfer llywodraeth Portiwgal. Ar 11 Mai 2023 trodd Bobi yn 31 oed,[2] a bu farw pum mis yn ddiweddarach.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.