From Wikipedia, the free encyclopedia
Corff llywodraethu rasio beics ym Mhrydain ydy British Cycling (BC yn fyr, adnabyddwyd gynt odan yr enw British Cycling Federation neu BCF). Mae'r ffederasiwn yn aelod o'r UCI a'r UEC.
Enghraifft o'r canlynol | corff llywodraethu chwaraeon |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1959 |
Aelod o'r canlynol | European Cycling Union, Union Cycliste Internationale |
Pencadlys | Manchester Velodrome |
Gwefan | https://www.britishcycling.org.uk/ |
British Cycling sy'n rheoli'r rhanfwyaf o seiclo cystadleuol ym Mhrydain, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw; gan gynnwys disgyblaethau rasio ffordd, trac, cyclo-cross, BMX, beicio mynydd (gan gynnwys reidio treialon), cycle speedway, anc, yn Yr Alban, Treialon Amser. Yr eithriad pennaf yw treialon amser ar y ffordd yn Lloegr a Chymru, sydd wedi eu gweinyddu gan gorff y Cycling Time Trials (CTT).
Rheolir seiclo yng Ngogledd Iwerddon gan Cycling Ireland.
Sefydlwyd y British Cycling Federation (BCF) yn 1959 gan gyfuniad o'r National Cyclists' Union (NCU) a'r British League of Racing Cyclists (BLRC). CYmerodd y BCF drosodd, adnabyddiaeth rhyngwladol yr NCU gan yr UCI.
Yn ddiweddar, mae'r BCF hefyd wedi cyfuno gyda'r 'British Cyclo-Cross Association' (BCCA), y 'British Mountain Bike Federation' (BMBF), 'English BMX Association' (EBA), a'r 'British Cycle Speedway Council' (BCSC). Daeth pob corff yn gomisiynau o fewn y BCF.
Gwlad neu diriogaeth | Corff rheolaethol |
---|---|
Lloegr | dim corff llywodraethu rhanbarthol |
Yr Alban | Scottish Cycling |
Cymru | Beicio Cymru |
Ynys Manaw | Isle of Man Cycling Association |
Gibraltar | Gibraltar Cycling Association |
Gogledd Iwerddon | Cycling Ulster (rhan o Cycling Ireland) |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.