Lloegr
Gwlad yng ngogledd Ewrop From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gwlad ar Ynys Prydain yng ngogledd orllewin Ewrop yw Lloegr (Saesneg: England). Yn ddaearyddol, ac o ran poblogaeth, hi yw'r wlad fwyaf o fewn y Deyrnas Unedig. Mae'n ffinio â Chymru i'r gorllewin a'r Alban i'r gogledd.
Yn y 6ed a'r 7g cyrhaeddodd llwythau Tiwtonaidd (a gynhwysai yn ôl traddodiad yr Eingl, Sacsoniaid, a Jutiaid) Brydain o dir mawr Ewrop a gwladychu de a dwyrain yr ynys gan yrru'r brodorion o Geltiaid tua'r gorllewin ac i'r ardaloedd llai ffrwythlon; arhosodd eraill ac fe'u hymgorfforwyd o fewn cymdeithas y goresgynnwyr.
Ymledodd rheolaeth y Saeson cynnar o dipyn i beth tua'r gorllewin a'r gogledd gan greu nifer o deyrnasoedd fel Wessex, Mersia, Essex, Sussex, a Northumbria. Colli eu hiaith a'u harferion bu hanes y Brythoniaid a oroesodd yn yr ardaloedd hynny. Ond Wessex oedd yr unig un i gadw ei hannibyniaeth ar ôl goresgyniadau'r Llychlyniaid yn yr 8fed a'r 9g, a theyrnas Wessex fu sail teyrnas Lloegr a'r Deyrnas Unedig wedyn.
Remove ads
Rhanbarthau Lloegr
- Prif: Rhanbarthau Lloegr
Mae naw rhanbarth yn Lloegr:
- Llundain Fwyaf
- De-ddwyrain Lloegr
- De-orllewin Lloegr
- Gorllewin Canolbarth Lloegr
- Gogledd-orllewin Lloegr
- Gogledd-ddwyrain Lloegr
- Swydd Efrog a Humber
- Dwyrain Canolbarth Lloegr
- Dwyrain Lloegr

Gweler hefyd
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads