Brocoli
From Wikipedia, the free encyclopedia
Planhigyn bwytadwy yn nheulu'r fresychen ydy brocoli. Mae ei flodyn gwyrdd golau wedi cael ei fwyta fel llysieuyn ers o leiaf cyfnod y Rhufeiniaid a mabwysiadwyd eu henw hwy arno yn Gymraeg a nifer o ieithoedd eraill, sef broccolo (Lladin), sy'n golygu "brig blodeuol y fresychen" a'r ffurf bachigol brocco, sef "hoelen fechan" neu "flaguryn".[3] Fel arfer caiff ei ferwi neu ei stemio, er mwyn ei feddalu ac er mwyn medru ei dreulio'n well.[4]
Broccoli | |
---|---|
Brocoli | |
Rhywogaeth | Brassica oleracea |
Grŵp | Italica Group |
Tarddiad | Yr Eidal (2,000 o flynyddoedd yn ôl)[1][2] |
Dosbarthwyd brocoli i'r grŵp cylfatar 'Italica' o fewn y rhywogaeth Brassica oleracea. O ran ffurf ac edrychiad, mae'n edrych yr un siâp a choeden fechan: gyda'i ganghennau'n ymrannu ar yn ail a bonyn sylweddol; gellir bwyta'r bonyn hefyd. Caiff y blodau gwyrdd golau eu hamgylchu gan ddail, ac mae hyn yn debyg iawn i'r flodfresychen, sy'n grŵp cyltifar gwahanol o fewn yr un rhywogaeth.
Bridiwyd cnydau rêp dros sawl canrif yng ngwledydd gogleddol y Môr Canoldir, gan ddechrau oddeutu 6g CC, a dyma darddiad brocoli.[5] Ers hynny caiff ei ystyried yn fwyd maethlon a phwysig mewn sawl gwlad, yn enwedig gan yr Eidalwyr.[6]
Mewnforiwyd brocoli i Gymru am y tro cyntaf, hyd y gwyddom, o Antwerp, a hynny yng nghanol y 18g gan Peter Scheemakers.[7] Yn yr Unol Daleithiau, mewnforiwyd ef gan fewnfudwyr Eidalaidd, ond ni ddaeth yn boblogaidd tan y 1920au hwyr.[8]