Bryn Mawr, Pennsylvania
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cymuned yn nhalaith Pennsylvania, Unol Daleithiau America, yw Bryn Mawr. Rhennir y gymuned rhwng Radnor Township a Haverford Township yn Delaware County, a Lower Merion Township ym Montgomery County. Saif ychydig i'r gorllewin o ddinas Philadelphia.
Math | lle cyfrifiad-dynodedig, cymuned heb ei hymgorffori |
---|---|
Poblogaeth | 5,879 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Montgomery County, Pennsylvania |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 1.641912 km², 1.641905 km² |
Uwch y môr | 128 metr |
Cyfesurynnau | 40.0211°N 75.3169°W |
Cod post | 19010 |
Rhoddwyd tir ym Mhennsylvania i William Penn gan y brenin Siarl I ym 1683, ac roedd Bryn Mawr yn rhan o'r tir hwn. Prynodd Rowland Ellis o Fryn Mawr, Dolgellau 800 erw oddi wrth Penn, ac adeiladodd blasdy yno. Enwyd y lle yn "Bryn Mawr", ar ôl ei fferm yn Sir Feirionydd. Datblygodd tref fach o'r enw Humphreyville, ar ôl perthnasau Rowland Ellis o'r enw "Humphrey".
Mae'r ardal yn enwog am Goleg Bryn Mawr, un o'r colegau hynaf i ferched yn yr Unol Daleithiau.
Ym 1932, adeiladwyd rheilffordd rhwng Philadelphia a Lancaster, Pennsylvania ac ym 1869 dewiswyd Bryn Mawr yn enw i'r orsaf reilffordd leol, yn hytrach na Humphreyville[1]
Mae Gorsaf reilffordd Bryn Mawr ar lein SEPTA Paoli-Thorndale[2]