Butch Cassidy
From Wikipedia, the free encyclopedia
Herwr a lleidr Americanaidd ac arweinydd y gang "Hole in the Wall" oedd Butch Cassidy (13 Ebrill 1866 – tua 7 Tachwedd 1908), ei enw genedigol oedd Robert LeRoy Parker.[1]
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Butch Cassidy | |
---|---|
Ganwyd | 13 Ebrill 1866 Beaver, Utah |
Bu farw | 7 Tachwedd 1908 Bolifia |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | troseddwr |
Cau
Ganwyd Parker yn Beaver, Utah yn fab i Maximillian Parker ac Ann Campbell Gillies, y tad yn Sais a'r fam o'r Alban. Parker oedd y cyntaf o 13 o blant, magwyd ar ransh ei rieni yn Circleville, Utah, 215 milltir (346 km) i'r de o Salt Lake City.
Yn 1896 daeth yn ffrindiau gyda dyn o Bennsylvania, Harry Longabaugh (neu'r Sundance Kid), a ymunodd â gang "Hole in the Wall".