Cainosöig
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cainosöig, Cainosoig neu weithiau Oes y Mamaliaid[1] (Saesneg: Cenozoic) sy'n tarddu o'r gair Groeg am "fywyd newydd" yw'r Gorgyfnod (neu era) presennol rydym yn byw ynddi, y ddiweddaraf o dri: Paleosöig, Mesosöig a'r Cainosöig.
Yr Oes Cainosöig 65.5 - 0 miliwn o flynyddoedd yn ôl | |
Ar ddechrau'r oes Cainosöig, yn dilyn y 'Digwyddiad Difodiant Cretasig-Paleogen' (Cretaceous-Paleogene Extinction Event), ffawna digon bychan oedd ar hyd a lled y ddaear, gan gynnwys adar, ymlusgiaid ac amffibiaid. Datblygodd mamaliaid i lenwi'r bwlch a adawyd gan ddifodiant anifeiliaid mawrion fel y dinosoriaid yn sydyn iawn (mewn termau daearegol). Y newid hwn yw diwedd cyfnod y Mesosöig a dechrau'r cyfnod hwn, sef y Cainosöig. Tyfodd rhai adar nad oeddent gynt yn medru hedfan yn greaduriaid mawr iawn - rhai ohonynt dros ddwy fetr. Lledodd y mamal dros fôr a thir gan esblygu i bob math o hinsawdd gyda rhai ohonynt yn fawr (y morfil).