![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/31/Beeston_Castle_%25285369%2529.jpg/640px-Beeston_Castle_%25285369%2529.jpg&w=640&q=50)
Castell y Felallt
castell yn Beeston, Swydd Gaer, Lloegr / From Wikipedia, the free encyclopedia
Castell canoloesol yw Castell y Felallt ('Beeston Castle' yn Saesneg) a godwyd ar safle bryngaer yn Beeston, Swydd Gaer (cyfeiriad grid SJ537593).[1] Fe'i lleolwyd ar gopa craig tywodfaen 350 tr (107 m) uwch llawr y dyffryn.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d8/Beeston_Castle_Gate.jpg/640px-Beeston_Castle_Gate.jpg)
Ffeithiau sydyn Math, Sefydlwyd ...
![]() | |
Math | hilltop castle ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Beeston ![]() |
Sir | Beeston ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 9 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.12815°N 2.6919°W ![]() |
Rheolir gan | English Heritage ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Ranulf de Blondeville, 6ed Iarll Caer ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig ![]() |
Sefydlwydwyd gan | Ranulf de Blondeville, 6ed Iarll Caer ![]() |
Manylion | |
Deunydd | tywodfaen ![]() |
Cau
Fe'i codwyd gan Ranulf de Blondeville, 6ed iarll Caer, (1170–1232), wedi iddo ddychwelyd o'r Croesgadau. Yn 1237 fe'i cymerwyd gan Harri III, brenin Lloegr ac roedd mewn cyflwr da hyd at 16g. Aeth rhannau o'r castell yn adfeilion yn 1646, wedi i filwyr Cromwell fynd i'r afael a'r lle.[2] Mae nifer o feirdd Cymraeg, gan gynnwys Guto'r Glyn, Lewys Glyn Cothi, Dafydd Llwyd o Fathafarn, Ieuan Llwyd Brydydd, a Siôn Ceri yn cyfeirio at y castell ar y Felallt.[3]