Castro de San Cibrao de Las
From Wikipedia, the free encyclopedia
Heneb a phentref Celtaidd allan o garreg yw Castro de San Cibrao Las (hefyd: A Ciudá, Lambrica, Lansbrica a Lanobrica) sydd wedi'i leoli yn Galisia. Er bod y gwaith archaeolegol ar ei ganol, credir fod pobl wedi byw yma am 400 o flynyddoedd: rhwng 200 CC a 200 OC ac o bosib yn achlysurol ar adegau eraill.[1]. Mae wedi'i leoli yn sir San Amaro, yn ne Galisia, sy'n un o wledydd ymreolaethol Sbaen.
"Y Ddinas" yw'r enw lleol amdano a gellir cymharu hyn gyda Dinas Emrys, yng Ngogledd Cymru - sydd hefyd o'r un cyfnod. Mae'n debygol mai o'r olion Rhufeinig mwy diweddar a ddarganfuwyd ym mhentref bychan Eiras y daw'r enwau eraill, gan y canfuwyd yno olion o addoli'r dduwies Galiciaidd 'Bandua'; nodir hefyd y tebygrwydd i enw'r dduwies Geltaidd Brigantia (cofier am 'Brigetio' yn Hwngari (Green 1986 p. 161) a Bragança a Braga ym Mhortiwgal).
O ran maint, mae'n eitha tebyg i'r olion Celtaidd yn Castro de Santa Trega, yng ngogledd Portiwgal, gyda'i arwynebedd yn 95,900 metr sgwâr.[2].
Gwnaed yr arolwg cyntaf gan Cuevillas Florentino Lopez a Vicente Risco rhwng 1921 ac 1925.[3][4]. Yn 1953 cydnabyddodd y Gynres Archaeolegol Genedlaethol fod y safle o bwysigrwydd cenedlaethol.[5] Pan ddechreuwyd clirio wyneb y pridd mewn cae cyfagos ar gyfer creu cae pêl-droed yn 1980, deuthpwyd ar draws ychwaneg o waliau a sylweddolwyd fod yr heneb yn anferthol.