From Wikipedia, the free encyclopedia
Bwyd solet a wneir o geuled gwasgedig y llaeth sur yw caws. Mae'n fwyd sy'n llawn o galsiwm. Fe'i gwneir o laeth gwartheg gan amlaf, ond gall gael ei wneud o laeth geifr, llaeth defaid neu laeth buail hefyd.
Enghraifft o'r canlynol | math o fwyd neu saig |
---|---|
Math | caws a chaws bwthyn, cynhwysyn bwyd, cynnyrch bwyd |
Deunydd | llaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ceir rhai mathau o gaws gyda llwydni arnynt.
Enllyn arall derbyniol fyddai cosyn cartref a byddai amryw o'r ffermydd, yn gwneud tipyn o gaws pan fyddai digonedd o laeth. Ffordd arferol i'w wneud byddai defnyddio llaeth drwyddo, hynny yw, y llaeth heb ei hufennu a llaeth sgim. Llaeth wedi codi'r hufen oddiarno, yr un faint o bob un, a'i dwymo i wres gwaed 98°F. Wedyn ychwanegu cywirdeb (rennet) iddo a'i adael i sefyll gwpl o ddyddiau hyd nes y byddai wedi ffurfio yn grawen yng ngwaelod y pot. Cael yr hyn a elwid yn 'llian caws' a'i daenu arno ac arllwys y gwlybion i lestr arall (dyma'r maidd, fyddai'n gwneud siot mor flasus yn ystod y cynhaeaf gwair, fel y llaeth enwyn o'r fuddai.) Mwyaf yn y byd a dynnid o'r gwlybion, byddai'r grawen, sef y gronynnau caws, yn ffurfio fel lwmp o does. Wedyn, byddai malwr a phigau arno, rhyw fath o beiriant oedd hwn i falu'r grawen cyn ei roi yn y cawswellt ac yna gosod gwasg denau o amgylch a llanw'r cawswellt a'r wasg yn llawn. Amcan y wasg oedd iddi suddo i mewn gyda'r caws o dan bwysau a phan gyrhaeddai'r pwysau a gwyneb y cawswellt byddai cymaint o wasgu ag a fyddai'n bosibl wedi cymryd lle. Dwy garreg las wedi eu gosod mewn ffrâm haearn fyddai yn gwasgu a'r garreg fyddai yn pwyso yn cael ei rheoli gan sgriw bwrpasol. Byddai tyllau mân yng ngwaelod y cawswellt a hefyd yn y garreg er mwyn i'r sudd gael ei weithio allan. Gollwng ychydig bwysau yn ychwanegol bob dydd fyddai'r gamp fel y byddai'r cosyn yn sychu ac wedi bod yno am rai dyddiau felly byddai cosyn o ddeuddeg i bymtheg pwys yn barod i'w roi ar y silff at wasanaeth y teulu. Edrychid ymlaen at swper a thorri'r cosyn.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.