![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5e/3D_Medical_Animation_Oral_Cavity.jpg/640px-3D_Medical_Animation_Oral_Cavity.jpg&w=640&q=50)
Ceg ddynol
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mewn anatomeg ddynol, ceudod a'r rhan gyntaf o'r llwybr ymborth sy'n amlyncu bwyd ac yn cynhyrchu poer yw'r geg (hefyd genau).[1] Y mwcosa geneuol yw'r bilen fwcaidd epitheliwm sy'n leinio tu mewn i'r geg.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | israniad organeb o rywogaeth arbennig, dosbarth o endidau anatomegol ![]() |
---|---|
Math | ceg ![]() |
Rhan o | pen dynol, wyneb dynol ![]() |
Yn cynnwys | ceudod y geg ddynol ![]() |
![]() |
Cau
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/80/Amigdalas.jpg/640px-Amigdalas.jpg)
Yn ogystal â'i rôl sylfaenol fel man cychwyn y system dreulio mewn dynion, mae'r geg hefyd yn chwarae rhan arwyddocaol mewn cyfathrebu. Er bod agweddau sylfaenol y llais yn cael eu cynhyrchu yn y gwddf, mae angen i'r tafod, y gwefusau a'r safnau hefyd i gynhyrchu ystod seiniau'r llais dynol