From Wikipedia, the free encyclopedia
Mewn mathemateg, siap, amlinell neu wyneb sy'n crymu tuag i mewn, yw ceugrwm (neu 'ceugrwn'; Saesneg concave) e.e. amlinell fewnol cylch pan edrychir arno o du mewn i'r cylch. Ei wrthwyneb yw amgrwm.
Yma, ystyr 'cau' yw 'gwacter', neu le gwag a daw ail ran y gair o 'crwn'; felly ffurf gwag, crwn yw tarddiad y gair cyfansawdd yma. Cyhoeddwyd y defnydd cyntaf o'r gair yng Ngeiriadur Saesneg-Cymraeg John Walters yn 1772.
Fe'i defnyddir yn aml gyda lens gwydr neu blastig tryloyw.
Mae gan y polygon ceugrwm o leiaf un ongl fewnol sydd rhwng 180 a 360 gradd.[1]
Nodweddion:
Nid oes unrhyw un o'r tri datganiad hyn yn gywir o ran y polygon amgrwm, fodd bynnag.
Cydnabyddir, bellach, na ddylid galw set ceugrwm yn "siap nad yw'n amgrwm" (a non-convex set). Mae'r set amgrwm yn arwyneb (neu'n ofod) caeedig, lle y gellir cysylltu unrhyw ddau bwynt gyda llinell syth heb adael yr arwyneb neu ofod. Mae'r gwrthwyneb yn wir am set ceugrwm, fel y gwelir gyda'r siap gwyrdd ar y dde.
Yn Saesneg gelwir y cromlinau hyn yn concave downwards neu concave down; bathiad Cymraeg fyddai 'lawrlinell'.
Dywedir bod ffwythiant o werth real ar gyfwng (interval) (neu fel arfer, set ceugrwm mewn gofod fector) yn "geugrwm" os yw'r canlynol yn gywir, ar gyfer ac yn y cyfwng ac ar gyfer ,[2]
Dywedir fod y ffwythiant yn "hollol geugrwm" (strictly concave) os
ar gyfer ac .
Ar gyfer ffwythiant , mae'r ail ddiffiniad yn mynegi: ar gyfer pob yn union rhwng a , yna mae'r pwynt ar graff uwch ben y linell syth sy'n cysylltu'r pwyntiau a .
Mae ffwythiant yn ffug-geugrwm (quasiconcave) os yw amlinell uchaf setiau'r ffwythiant yn setiau amgrwm.[3]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.